Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, wedi lansio cynllun cymorth ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i helpu ffermwyr.

Yn dilyn y cynlluniau a gafodd eu cyflwyno yn 2018 a 2019, bydd cynllun 2020 unwaith eto yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn sy’n cael ei ragweld fel gwerth hawliad BPS busnes unigol.

Bydd y taliad hwn yn lleihau’r pwysau tymor byr ar y busnesau ffermio hynny nad ydynt yn cael eu taliad BPS ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu, sy’n dechrau ar Ragfyr 1.

Bydd Cynllun Cymorth BPS 2020 yn agor i geisiadau drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein ar Fedi 1 a bydd yn parhau ar agor tan Dachwedd 27.

‘Rôl hanfodol’

“Mae pandemig COVID-19 wedi hoelio sylw ar y rôl hanfodol sy’n cael ei chwarae gan ein diwydiant amaethyddol o ran sicrhau ein cadernid fel cymdeithas,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig.

“Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae sicrhau bod ffermwyr yn cael yr hyblygrwydd a’r cymorth angenrheidiol i ddiogelu’r cadwyni cyflenwi bwyd a’n cydnerthedd amgylcheddol wedi bod yn flaenoriaeth imi.

“Rwy’n bwriadu adeiladu ar lwyddiant y Cynlluniau Cymorth a gyflwynwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy weithredu Cynllun Cymorth unwaith eto ar gyfer 2020.

“Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd ariannol sydd wir ei angen ar fusnesau ffermio yng Nghymru yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, tra bo perthynas masnachu’r DU gyda’r UE yn y dyfodol yn dal i fod yn aneglur.

“Bydd angen optio i mewn i’r cynllun hwn a byddwn yn annog pob busnes ffermio i ymgeisio ar gyfer Cynllun Cymorth BPS 2020 gan ddefnyddio’r ffurflen syml ar wefan RPW Ar-lein.”