Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati “ar frys” i roi atebion i sefyllfa ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Dyna mae’r Aelod o’r Senedd, Helen Mary Jones, wedi ei ddweud wrth gyhoeddi sesiwn casglu tystiolaeth yn y Senedd yr wythnos nesa’.
Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ac mi fydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn rhoi tystiolaeth ar Dachwedd 12.
Ym mis Medi daeth panel annibynnol i’r casgliad bod angen rhoi “sylw brys” i ofynion ariannol y Llyfrgell Genedlaethol, a sesiwn y pwyllgor yn sgil hyn.
“Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog i gwrdd â ni er mwyn esbonio beth sydd wedi digwydd a beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y sefydliad hanfodol hwn,” meddai’r Cadeirydd.
“Y Llyfrgell Genedlaethol yw ceidwad rhai o elfennau pwysicaf ein hanes, ac fel sefydliad mae ganddi ei hanes cyfoethog ei hun. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ei dyfodol.
“Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi atebion fel mater o frys.”
Casgliadau’r panel
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, a bu’r panel annibynnol yn ymchwilio i sefyllfa’r Llyfrgell cyn yr argyfwng coronafeirws.
Mae’r adroddiad yn dweud bod incwm y Llyfrgell wedi cwympo gan 40% – mewn termau real – rhwng 2008 a 2019. Hefyd bu’n rhaid cwtogi lefelau staff gan 23%.
Wnaeth Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell, ymateb i’r adroddiad trwy alw ar wleidyddion o “bob plaid” i achub y sefydliad.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.