Mae Nicola Sturgeon wedi dweud wrth y Prif Weinidog ei bod yn disgwyl iddo gadw at ei air a rhoi arian i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon os bydd yn rhaid iddynt gyflwyno clo ar wahanol adeg i Loegr.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban y byddai’n “siomedig iawn, iawn”, os nad oes arian ychwanegol gan Drysorlys y DU ar gael os bydd hi’n cyhoeddi ail gyfnod clo sy’n ymestyn y tu hwnt i 2 Rhagfyr – y dyddiad newydd y mae disgwyl i’r cynllun ffyrlo ddod i ben, a hynny am y bydd clo Lloegr yn dod i ben.

Ddydd Sadwrn (Hydref 31) wrth i Boris Johnson gyhoeddi ail gyfnod clo ar gyfer Lloegr, cadarnhawyd y byddai’r cynllun cadw swyddi yn cael ei ymestyn am fis arall, gyda Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi bod yn pwyso ar weinidogion y DU am fwy o eglurder ar y mater.

“Os bydd Llywodraeth y DU yn dweud nad oes modd ymestyn ffyrlo i’r Alban y tu hwnt i Ragfyr 2, byddaf yn siomedig iawn, iawn, dw i’n bod mor ddiplomyddol ag y gallaf,” meddai Nicola Sturgeon.

Dywedodd ei bod wedi bod yn “rhwystredig” o beidio cael ymateb manwl ond ychwanegodd: “Fy nisgwyliad i yw bod y Trysorlys yn gweithio ar hynny nawr ac rydym yn disgwyl gweld y manylion yn fuan.”

Yna rhybuddiodd Lywodraeth y DU: “Os nad yw hynny’n wir, rwy’n meddwl y bydd pobol ledled yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd yn siomedig ac yn bryderus dros ben.”

Holi’r Prif Weinidog

Yn nes ymlaen yn San Steffan, cyhuddodd Patrick Graddy, AS yr SNP a’i Phrif Chwip, y Prif Weinidog a’i Lywodraeth o “oedi parhaus a gwamalu” ar y mater.

Dywedodd AS arall o’r SNP, Drew Hendry, (Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey) nad oedd ASau wedi clywed ie clir a diamwys i’r cwestiwn.

Dywedodd: “Y broblem, Brif Weinidog, yw nad ydym wedi clywed ie clir, diamwys i’r cwestiwn.

“Felly a all ddatrys hynny nawr – os bydd angen i’r Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon gyflwyno mesurau cloi ar wahanol adegau i Loegr, a fydd y Canghellor yno i’n cefnogi gyda’r cynllun ffyrlo?”

Atebodd Mr Johnson: “Dw i wir yn credu … ie… byddwn… Dw i wir yn meddwl … Dydw i ddim yn gwybod sut alla i ddihysbyddu fy geirfa gadarnhaol ymhellach.

“Wnawn nhw ddim yn cymryd ‘ie’ fel ateb.”