Mae cyn-filwr wedi cael ei garcharu am ymosodiad ar yrrwr tacsi wnaeth ei roi mewn coma.

Digwyddodd yr ymosodiad wrth ochr yr A6055 yn Little Holtby – rhwng Leeming a Phentref Catterick yn Swydd Efrog – yn ystod oriau mân Rhagfyr 1 2019.

Aeth Steffan Rhys Wilson, 26 oed, o Maesyfro, Llanybydder, i mewn i’r tacsi tua 3yb o’r tu allan i Glwb Amadeus yn Northallerton.

Pan gyrhaeddodd y tacsi yn Little Holtby, ymosododd Wilson ar y gyrrwr.

Dioddefodd y gyrrwr tacsi 43 oed o Northallerton, anaf difrifol i’w ymennydd ac roedd mewn coma am ddau fis yn Ysbyty Prifysgol James Cook.

Cyrhaeddodd swyddogion yr heddlu yn ystod yr ymosodiad, a dechreuodd Wilson ymosod arnyn nhw.

Cafodd un heddwas ei hitio a’i grogi gan Wilson.

Wrth iddo gael ei roi yng nghefn fan yr heddlu, dywedodd Wilson y canlynol: “Fe wnaethoch chi gymryd eich amser. Roeddwn i’n mynd i’w ladd (y gyrrwr tacsi) ac roeddwn i’n mynd i’ch lladd chi.”

Cafodd ei gyhuddo’r un diwrnod o geisio llofruddio ac o ddau ymosodiad ar weithwyr brys.

“Nid yw’n glir beth oedd cymhelliad Wilson”

Roedd disgwyl i Wilson wynebu rheithgor cyn iddo bledio’n euog yn Llys y Goron Leeds ddydd Llun (Tachwedd 2).

Cafodd ei garcharu am naw mlynedd a naw mis ddydd Mawrth (Tachwedd 3).

Dywedodd Ditectif Arolygydd Matt Wilkinson o CID Northallerton: “Yn yr achos hwn mae tri dioddefwr – y gyrrwr tacsi a’r ddau swyddog heddlu. Nid oedd Wilson yn adnabod yr un ohonynt

“Dim ond casglu Wilson o’r tu allan i glwb nos lleol wnaeth y gyrrwr tacsi, cyn i swyddogion yr heddlu ymateb i alwad y gyrrwr am help.

“Yn ystod y cyfnod yr oedd Wilson yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu, nid yw wedi rhoi unrhyw esboniad credadwy am ei weithredoedd, ac eithrio dweud ei fod yn feddw iawn ac nad oedd yn bwriadu achosi unrhyw niwed.

“Mae’r holl dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn dangos ei fod yn ymosodiad cwbl ddi-sail. Hyd heddiw, nid yw’n glir beth oedd cymhelliad Wilson.”