Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru i egluro pam fod busnesau gwely a brecwast wedi cael eu heithrio rhag derbyn cefnogaeth ariannol i’w helpu i ymdopi â phandemig y coronafeirws.
Dywedodd Mark Isherwood, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru, fod busnesau gwely a brecwast ar draws Cymru wedi cysylltu ag ef ar ôl darganfod nad oedd Cronfa Gwydnwch Economaidd Llywodraeth Cymru’n darparu cefnogaeth iddynt.
“Mae eu sylwadau imi yn cynnwys: ‘Mae’r cyllid hwn yn ein gadael ni a miloedd o fusnesau bach allan yn yr oerfel,’ meddai Mark Isherwood.
“Maen nhw’n hollol anobeithiol a ddim yn deall pam fod Llywodraeth Cymru’n gwrthod rhoi cefnogaeth iddynt.
“Felly dw i’n galw am ddatganiad brys sy’n mynd i’r afael â realiti’r sefyllfa.”
Ymatebodd y Trefnydd, Rebecca Evans, ar ran llywodraeth Cymru gan ddweud fod gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth “ddiddordeb mewn trafod Cronfa Gwydnwch Economaidd yn nhermau sut mae’n cefnogi busnesau a pha gefnogaeth all gael ei ddarparu.”