Bydd pobol sydd yn torri rheolau cyfyngiadau cloi lleol bwrdeistref sirol Caerffili, a ddaeth i rym am 6.y.h neithiwr (Medi 8), yn wynebu euogfarnau a dirwyon.

O dan y cyfyngiadau, nid oes gan bobol hawl i fynd mewn i’r ardal nac ei gadael, oni bai fod ganddynt reswm dilys.

Ni ddylai’r 181,000 o bobol sydd yn byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfarfod ag unrhyw un nad sydd yn byw gyda nhw, o dan do – gan gynnwys mewn caffis, tafarndai, bars a bwytai – heb reswm da.

Bydd y cyfyngiadau’n parhau tan fis Hydref o leiaf, meddai Llywodraeth Cymru.

“Mae’n drosedd cyfarfod ag unrhyw un nad sydd yn byw gyda chi mewn caffis, tafarndai, bars a bwytai,” yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfyngiadau yn cael eu rheoli gan swyddogion iechyd amgylcheddol yr awdurdodau lleol a’r heddlu, sydd â’r pŵer i osod hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn troseddwyr mewn llys ynadon.

Bydd yr heddlu yn annog y cyhoedd i ddilyn y rheolau, ond byddent yn defnyddio eu grym i orfodi’r cyfyngiadau os oes rhaid, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd hysbysiadau cosb benodedig o £60 yn cael eu rhoi gan amlaf.

Mae modd dyblu’r dirwy i £120 ar gyfer ail drosedd, a gall ddyblu nes cyrraedd £1,920 pe bai unigolyn yn torri’r cyfyngiadau dro ar ôl tro.

Cyfyngiadau lleol

Am y tro cyntaf yng Nghymru mae’n orfodol i bawb dros 11 oed wisgo mygydau tu mewn, gan gynnwys mewn siopau, siopau trin gwallt, a chanolfannau hamdden.

Nid oes rhaid i bobol wisgo mygydau mewn caffis, bwytai na thafarndai.

Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i weithio o adref os yw’n bosib, “mae’n ofynnol i gyflogwyr ym mwrdeistref sirol Caerffili orfodi pobol i wisgo mygydau tu mewn pan nad yw’n bosib cynnal pellter cymdeithasol.”

Nid oes gan drigolion Caerffili’r hawl i deithio i ail gartrefi tu allan i’r ardal, gan nad yw’n “rheswm dilys” dros adael.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod teithio i ail gartrefi yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws, ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr NHS mewn ardaloedd lle nad oes ganddynt yr adnoddau i ymdopi â chynnydd mewn poblogaeth.

Gall priodasau, seremonïau partneriaethau sifil a derbyniadau priodasol bach fynd yn eu blaen, ond dim ond gyda gwesteion o’r ardal.

“Mae gan bobol sydd yn byw yn yr ardal hawl i fynychu seremonïau priodasol tu allan i’r ardal, ond nid derbyniadau priodas,” meddai Llywodraeth Cymru.

Mae gan bobol sydd yn byw tu allan i’r ardal hawl i fynychu angladdau o fewn ardal Caerffili os ydynt wedi derbyn gwahoddiad, ond mae’n rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau, yn enwedig tu mewn neu os nad yw’n bosib cadw 2 fedr i ffwrdd oddi wrth eraill.

Ni ddylai bobol adael bwrdeistref sirol Caerffili i wneud chwaraeon, ymarfer corff, nag ar gyfer rhesymau hamdden.

Oni bai ei bod yn anymarferol siopa o fewn yr ardal ac yn amhosib cael nwyddau angenrheidiol wedi eu danfon, dylai bobol siopa o fewn bwrdeistref sirol Caerffili.

Gweddill Cymru

Mae’r Gwenidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi rhybuddio y “gallai cyfyngiadau tebyg ddod i rym mewn rhannu eraill o Gymru od ydym yn gweld yr un patrwm.”