Mae Sŵ Borth wedi yng Ngheredigion wedi cyhoeddi ei fod yn cau “ar unwaith” yn sgil diffyg trefniadau cadw drylliau.
“Fe gawsom ychydig o drafferth i gydymffurfio gyda’r disgwyliadau drylliau eleni,” meddai datganiad ar wefan y Sŵ.
“Mae hyn wedi cael ei achosi i raddau gan newid personél ym mis Ionawr 2020, ac yna nid oedd staff newydd yn gallu cwblhau eu hyfforddiant wrth i’r lleiniau hyfforddi tanio gau, ynghyd â gweddill y byd, am lawer o 2020.”
Roedd Cyngor Ceredigion wedi dweud bod yn rhaid cael un aelod o dîm tanio drylliau yn gweithio ar y safle bob dydd rhag ofn i anifail ddianc.
Mae sawl anifail wedi dianc o’r sŵ o’r blaen, gan gynnwys dau antelop ym mis Mawrth 2020 a lyncs Ewrasaidd, gafodd ei saethu’n farw ym mis Hydref 2017 ar ôl cael ei ffeindio mewn maes carafanau.
Yn dilyn y digwyddiad yn 2017, llofnododd 12,000 o bobol ddeiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw am gau’r sŵ.
Ym mis Ionawr fe gafodd y sŵ orchymyn i gau’r corlannau oedd yn gartref i’r anifeiliaid peryclaf ar y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: “Mewn ymateb i’r cynnig yma, cytunodd Cyngor Sir Ceredigion ar newid i’r drwydded i gau’r rhan yma o’r sw yn unig, sef llociau’r llewod, lyncs a serfal.
“Mae cau’r rhan yma o’r sw’n golygu na ellir cadw anifeiliaid categori un.”
Nid yw’n eglur i ble fydd yr anifeiliaid yn cael eu symud am y tro, na pryd bydd y sŵ yn ailagor.