Mae dau antelop wedi dianc o sŵ Borth yng ngogledd Ceredigion.
Dywed y sŵ eu bod nhw wedi dod o hyd i’r anifail gwrywaidd, ond nad ydyn nhw eto wedi dod o hyd i’r anifail benywaidd.
Mewn datganiad, dywed y sŵ ei bod hi’n bwysig bod y cyhoedd yn cadw draw o’r anifeiliaid.
“Dydy’r fenyw ddim yn beryglus o gwbl; fodd bynnag, mae gan y gwryw gyrn mawr, ond dyw e ddim yn ymosodol.”
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion, fod y newyddion yma yn “siomedig tu hwnt” a’u bod nhw “wedi colli hyder yng ngallu’r sŵ i weithredu’n gyfrifol ac yn ddiogel”.
Achosion blaenorol
Yn gynharach eleni, bu’n rhaid i’r sŵ gau i’r cyhoedd oherwydd pryderon Cyngor Sir Ceredigion am “ddiogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid.”
Dihangodd lyncs Ewrasaidd o’r sŵ fis Hydref 2017, a bu’n rhaid eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod.
Yn dilyn y digwyddiad yn 2017, llofnododd 12,000 o bobol ddeiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw am gau’r sŵ a gafodd ei phrynu gan Dean a Tracy Tweedy am £625,000 yn 2016.