Mae Dr David Hepburn, sy’n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, wedi rhannu ei brofiadau o weithio yn yr ysbyty a’i brofiad personol o gael ei heintio â’r coronafeirws.
Mewn fideo ar dudalen Twitter Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, dywed fod y profiad o ddal y feirws yn “hollol ofnadwy”.
“Ar hyn o bryd, mae fy nhîm yn yr uned gofal dwys yn gofalu am lawer o gleifion sy’n ddifrifol wael gyda coronafeirws,” meddai.
“Mae rhai ohonyn nhw’n iau na fi – yn sicr nid pobol fregus nac oedrannus yw’r rhain.
“Maen nhw’n ifanc, maen nhw’n ffit ac mae ganddyn nhw deuluoedd ifanc.”
Symptomau Dr David Hepburn
Eglura Dr David Hepburn yn y fideo na chafodd e beswch o gwbl, ond yn hytrach, fe gollodd ei allu i flasu, ac roedd teimlad o losgi yn ei drwyn.
“O fewn wythnos roeddwn yn teimlo’n hollol ofnadwy,” meddai.
“Cyhyrau poenus, esgyrn poenus a methu â chodi o’r gwely – mi o’n i’n cysgu am 16 i 18 awr y dydd.
“Diolch byth rydw i’n gwella nawr, ond alla i ddim pwysleisio i chi pa mor sâl y gall hyn eich gwneud chi.”
‘Aberth fach yw hon am gyfnod byr’
Mae’r meddyg yn erfyn ar bobol i wrando ar gyngor y llywodraeth er mwyn “amddiffyn pawb”, ac er mwyn “amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd.”
“Aberth fach yw hon am gyfnod byr ac yna bydd bywyd yn mynd yn ôl i normal eto,” meddai.
Heddiw (dydd Mercher, Mawrth 25), cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pump yn rhagor o bobol wedi marw o’r feirws yng Nghymru.