Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe (27 Awst) y caniateir i bobl ymweld â pherthnasau a ffrindiau mewn cartrefi gofal yng Nghymru o heddiw (28 Awst) ymlaen, ddiwrnod yn gynharach na’r disgwyl.
Bydd ymweliadau’n destun rheolaethau llym i helpu i atal trosglwyddiad y coronafeirws.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mai mater i bob sefydliad unigol fyddai penderfynu pryd yn union y byddent yn gallu dechrau hwyluso ymweliadau’n ddiogel eto.
“Bydd y cadarnhad hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu’n fawr i gynifer ledled Cymru,” meddai Mr Gething ddoe (27 Awst).
“Bu cyfyngu ar fynediad i gartrefi gofal yn gwbl angenrheidiol i amddiffyn rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag Covid-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar breswylwyr a’u hanwyliaid.
“O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau’n gyflym er mwyn gallu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel.”
Mae’r newid i’r rheoliadau hefyd yn berthnasol i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc.
Dirwyon llymach
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwerau i’r heddlu roi dirwyon llymach i atal digwyddiadau cerddoriaeth didrwydded.
Bydd rheoliadau’r coronafeirws yn cael eu diwygio i wahardd, o heddiw (28 Awst) ymlaen, ddigwyddiadau cerddoriaeth didrwydded o fwy na 30 o bobl.
Bydd torri’r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy gollfarn a dirwy ddiderfyn neu, yn lle collfarn, drwy gosb benodedig o £10,000.
Mae hyn yn rhoi’r un pwerau i’r heddlu yng Nghymru â’r rhai sy’n cael eu cyflwyno ar yr un pryd yn Lloegr.
“Mae ymgasglu’n anghyfreithlon yn peryglu iechyd pobl yn ddiangen. Mae’r newidiadau i’r rheoliadau rydym yn eu cyflwyno yn rhoi pwerau newydd i’r heddlu atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd,” meddai Mr Gething.
“Mae’r ddirwy ddiderfyn neu gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu’r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd.”
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw newidiadau diweddar i’r rheolau sy’n ymwneud ag ymgasglu yng Nghymru.
Ni ddylai pobl ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 30 o bobl yn yr awyr agored na chyfarfod â phobl y tu allan i’w cartref neu aelwyd estynedig dan do.
Annog pobl ifanc i ymdrechu i ymbellhau’n gymdeithasol
Hefyd, mae swyddogion iechyd yn annog pobl ifanc i ymdrechu i ymbellhau’n gymdeithasol, yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.
Dywedodd Dr Robin Howe, o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein hymchwiliadau i nifer o achosion o’r coronafeirws wedi dangos bod diffyg ymbellhau cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o’r grŵp oedran 20 i 30 oed, wedi arwain at ledaeniad y feirws i grwpiau eraill o bobl.
“Byddwn yn apelio’n uniongyrchol at bobl ifanc i gofio, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo na fyddai Covid-19 yn effeithio’n wael arnyn nhw, pe baent yn ei drosglwyddo i aelodau hŷn neu fwy agored i niwed o’r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr, y gallai fod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed yn angheuol.”