Mae’r Gweriniaethwyr wedi enwebu Donald Trump, yn swyddogol, i fod yn ymgeisydd arlywyddol yn yr etholiad ym mis Tachwedd.

Wrth dderbyn yr enwebiad, rhybuddiodd Donald Trump Americanwyr am y “difrod” y byddai Joe Biden yn ei achosi.

Aeth y gŵr 74 oed yn erbyn traddodiad, gan ddefnyddio’r Tŷ Gwyn fel cefndir gwleidyddol ac anwybyddu canllawiau’r pandemig drwy annerch torf glos.

“Rydym wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn gwrthdroi’r difrod mae Joe Biden wedi ei achosi dros y 47 blynedd diwethaf,” meddai Donald Trump.

Aeth ymlaen i ddweud bod gan yr etholwyr ddewis: “Achub y freuddwyd Americanaidd, neu ddewis dyfodol sosialaidd.”

Roedd Donald Trump wedi cwyno bod neges y Democratiaid yn rhy dywyll a phesimistaidd pan gynhaliodd y blaid Weriniaethol gynhadledd wythnos diwethaf.

Cyflwynodd ei ferch, Ivanka, sy’n ymgynghorydd dylanwadol yn y Tŷ Gwyn, a ddywedodd fod ei thad yn cydymdeimlo â’r sawl sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig.

“Rwyf wedi gweld y boen yn llygaid fy nhad wrth iddo dderbyn diweddariadau ar y bywydau sydd wedi cael eu dwyn gan y pla hwn,” meddai.