Heddiw (28 Awst), mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn galw am ddadl gyhoeddus rhwng arweinwyr prif bleidiau Cymru “cyn ein bod ni yng ngwres yr etholiad”.
Caiff yr etholiad ei gynnal ym mis Mai 2021.
Dywed Mr Price yn ei lythyr: “gresyn y bu llai o gyfle i graffu wrth i drefniadaeth ein Senedd addasu i’r normal newydd”.
Mae’n cydnabod fod y pandemig wedi golygu bod rhaid gwneud penderfyniadau ar fyr rybudd, a’i bod yn gyfnod “gwleidyddol digynsail” ond creda y byddai Cymru yn elwa o gynnal trafodaeth rhwng arweinwyr y prif bleidiau.
Yn ei lythyr, mae Mr Price yn mynd ymlaen i ddweud:
“Gan fod y pandemig yn mynnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar fyr rybudd, bu llai o amser ar gyfer yr holi a’r herio sy’n rhan annatod o’n democratiaeth.
“Yn hollbwysig, dylem roi amser i ni’n hunain ddeall pa wersi y gellir eu dysgu o’r misoedd diwethaf, cyn wynebu’r hyn y mae arbenigwyr yn ei ragweld fydd ail don a all daro cyn diwedd y flwyddyn.
“Mae rhannu syniadau – eu herio a’u cofleidio – yn rhan mor bwysig o sicrhau fod pobl Cymru yn cael eu cynrychioli orau gan y rhai y maent wedi’u hethol. Yn yr ysbryd hwnnw, credaf mai dyma’r amser am ddadl gyhoeddus rhwng arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.”
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru wrth BBC Wales mai dadl ar y teledu ffyddai’r “fformat gorau”.