Dywed Heddlu’r Gogledd bod bachgen wedi bod mewn gwrthdrawiad char y bore yn Nhreffynnon.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gyda man anafiadau.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd y A5026.
Cafodd y ffordd ei chau i bob cyfeiriad rhwng Lôn Moor a Heol Carmel wrth i’r gwasanaethau brys ymchwilio i’r ddamwain.
Dywed yr heddlu nad oes unrhyw un wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r gwrthdrawiad.