Stormont
Fe fydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn cwrdd a’r SDLP heddiw wrth i’r pwysau gynyddu ar y pleidiau llai yn y Pwyllgor Gweithredol i ohirio cyfarfodydd y Cynulliad er mwyn osgoi diddymu’r Glymblaid.

Daw’r argyfwng gwleidyddol yn Stormont yn dilyn achos o lofruddiaeth sydd wedi cael ei gysylltu gyda’r  IRA.

Mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd wedi bygwth ymddiswyddo o’r Pwyllgor Gweithredol os na fydd y Cynulliad yn cael ei ohirio er mwyn cynnal trafodaethau dwys rhwng y pleidiau ynglŷn â llofruddiaeth Kevin McGuigan.

Gall penderfyniad yr Unoliaethwyr arwain at ddiddymu’r glymblaid yn y wlad.

Bydd pwyllgor busnes y Cynulliad yn cyfarfod prynhawn ‘ma i bleidleisio ar gynnig yr Unoliaethwyr. Os caiff ei wrthod, bydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, sef arweinydd yr Unoliaethwyr yn gadael ei swydd erbyn diwedd y dydd.

Bydd Taoiseach Gogledd Iwerddon, Enda Kenny yn cwrdd â chynrychiolwyr yr SDLP (Y Blaid Lafur a Democrataidd Cymdeithasol) yn hwyrach i drafod yr opsiwn o ohirio.

Gyda dwy blaid fwyaf Gogledd Iwerddon, yr Unoliaethwyr Democrataidd o blaid a Sinn Fein yn erbyn y cynnig, bydd safle’r SDLP, Unoliaethwyr Ulster a’r Blaid Alliance yn hollbwysig.

Mae Unoliaethwyr Ulster wedi ymddiswyddo o’r glymblaid yn barod gan honni bod yn ymddiried yn Sinn Fein.

Bydd y blaid yn pleidleisio o blaid gohirio’r Cynulliad yn unig ar yr amod bod dirprwy Brif Weinidog, Gerry Adams o Sinn Fein yn cyfaddef bod yr IRA yn dal i fodoli.

Daw hyn ar ôl i dri o Weriniaethwyr amlwg – gan gynnwys cadeirydd  Sinn Fein yn y gogledd, Bobby Storey, gael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth  Kevin McGuigan.