Cyngor Sir Penfro
Bydd Cyngor Sir Penfro yn trafod cynlluniau dadleuol i sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn y Sir heddiw.
Fe lansiodd y Cyngor ymgynghoriad newydd i’r cynlluniau i uno dwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd, sef Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward, a chreu ysgol Gymraeg fawr newydd yn Sir Benfro.
Mae ansicrwydd yn ddiweddar dros y cynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg newydd ar gyfer plant rhwng 12-16 yn Hwlffordd.
Mae’r cyngor wedi methu dod i gytundeb gyda pherchnogion safle Ysgol Tasker Milward.
Bydd cynghorwyr heddiw yn trafod ymgynghoriad newydd ar y cynlluniau. Maen nhw eisoes wedi pleidleisio yn erbyn argymhelliad i gau Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Nhyddewi.