Jonathan Edwards
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Jonathan Edwards, wedi camu lawr o’r rôl ychydig fisoedd yn unig ers iddo gael ei ddewis.

Roedd yr Aelod Seneddol wedi gwneud y cyhoeddiad mewn cyfarfod â’i gyd-aelodau neithiwr, gan ddweud ei fod eisiau canolbwyntio ar ei etholaeth a’i deulu.

Roedd yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi cael ei benodi fel arweinydd grŵp Plaid Cymru yn Llundain ar ôl yr etholiad cyffredinol, yn dilyn ymddeoliad Elfyn Llwyd.

Hywel Williams, sydd wedi bod yn AS ar Gaernarfon ac yna Arfon ers 2001, fydd arweinydd newydd y blaid yn San Steffan.

‘Rhesymau personol’

Dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru:  “Ar ôl ystyried yn ofalus rwyf wedi penderfynu sefyll i lawr fel arweinydd Grŵp Seneddol Plaid Cymru.

“Mae fy mhenderfyniad yn seiliedig ar resymau personol ac rwyf eisiau bod yn y sefyllfa orau posib i roi fy etholaeth a fy nheulu yn gyntaf.

“Rwy’n cynnig fy nghefnogaeth lawn i Hywel Williams fel yr arweinydd Seneddol newydd ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu tuag at ymgyrch Etholiad Cynulliad Plaid Cymru yn 2016.”

Mae gan Blaid Cymru dri Aelod Seneddol ar hyn o bryd – Hywel Williams; Jonathan Edwards, sydd wedi bod yn AS ers 2010; a Liz Saville Roberts gafodd ei hethol fel olynydd i Elfyn Llwyd eleni.