Castell Caernarfon
Mae grŵp newydd, sydd wedi cael ei sefydlu yng Nghaernarfon, yn gobeithio creu cadwyn o bobl o amgylch Castell Caernarfon ddydd Sadwrn i ddangos eu cefnogaeth i’r miloedd o ffoaduriaid sydd yn cyrraedd Ewrop.

Sefydlwyd Ffrindiau Ffoaduriaid dros y penwythnos ac un o benderfyniadau cyntaf y grŵp oedd trefnu gweithred symbolaidd o gwmpas Castell Caernarfon.

Bydd yn rhan o Ddiwrnod o Weithredu ar draws y DU, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys gorymdaith fawr yn Llundain.

‘Estyn llaw o gyfeillgarwch’

Dywedodd Elinor Gray-Williams, o Gaernarfon sy’n un o’r trefnwyr:  “Rydym yn teimlo ein bod eisiau estyn llaw o gyfeillgarwch tuag at y miloedd o bobl sy’n cael eu gorfodi i adael eu gwledydd eu hunain dan amgylchiadau ofnadwy.

“Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth am y sefyllfa argyfyngus, i helpu codi arian i elusennau sy’n gweithio yn Calais ac ymhellach, ac rydym hefyd yn trefnu casgliadau bwyd a dillad yn lleol.”

‘Angen 258 o bobl i greu cadwyn’

Dywedodd un o sefydlwyr y grŵp newydd, Angharad  Griffiths o Waunfawr  eu bod yn cynnal y digwyddiad fel arwydd o gefnogaeth i’r ffoaduriaid:  “Rydym wedi amcangyfrif fod angen 258 o bobl i greu cadwyn o gwmpas Castell Caernarfon ond rwy’n siŵr fydd llawer mwy yn ymgynnull efo ni dydd Sadwrn fel arwydd o gefnogaeth a chyfeillgarwch.”

Ychwanegodd: “Gobeithio bydd hyn yn tynnu sylw at sefyllfa’r ffoaduriaid gan ddangos cefnogaeth o Ogledd Orllewin Cymru yn ogystal ag annog pobl i ddod a rhoddion i’r mannau casglu  sy’n ymddangos o gwmpas yr ardal.

“Rydym yn gofyn i bobl ymgynnull ger colofn Lloyd George am 3yp cyn i ni symud i ddal dwylo i amgylchynu’r castell. Mae Aelod Seneddol Arfon,  Hywel Williams wedi cadarnhau y bydd yn mynychu i roi diweddariad ar beth sy’n digwydd yn San Steffan.”

‘Ymateb anhygoel’

Croesawodd Catrin Wager o Fethesda yr ymateb hyd yma yn dilyn sefydlu’r grŵp newydd, ac fe gyhoeddodd fod lori wedi’i llwytho gydag eitemau yn gadael tref Caernarfon dros y penwythnos i Calais.

Meddai Catrin Wager: “Mae’r ymateb gan bobl leol yn yr ardal hon wedi bod yn anhygoel efo bagiau o eitemau yn llifo mewn i’n canolfan ddidoli mewn siop wag ym Methesda. Roedd yn wych gweld grŵp newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaernarfon fydd yn defnyddio Capel Caersalem fel canolfan ddidoli.”

Fe fydd yn teithio i Calais y penwythnos nesaf gyda llond lori o eitemau sydd wedi cael eu casglu yn ardaloedd Bangor, Bethesda, Y Felinheli a Bethel.

‘Gweithred symbolaidd’

Ychwanegodd, “Mae’r weithred symbolaidd sydd wedi ei threfnu gan Ffrindiau Ffoaduriaid ar gyfer dydd Sadwrn yn wych. Byddaf ar fy ffordd i Calais erbyn hynny ac fe fydd gwybod fod hyn yn digwydd yn wych. Mae’r ffaith y byddan nhw yn codi arian i MOAS (Migrant Offsore Aid Station) hyd yn oed yn well gan fy mod yn credu’n gryf na ddylai pobl fod yn boddi wrth geisio dod atom am help.”

Mae’r grŵp newydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau tebyg ar draws y Gogledd. Bydd casgliad yn cael ei wneud yn y digwyddiad ar gyfer yr elusen MOAS sy’n gweithio i geisio atal pobl rhag boddi ym Môr y Canoldir ac fe achubwyd 8,696 o fywydau cyn belled.

Bydd pobl yn ymgynnull am 3yp ddydd Sadwrn, 12 Medi ger colofn Lloyd George, Y Maes, Caernarfon.