Mae’r mudiad gwrth-niwclear PAWB (Pobl Atal Wylfa B) wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru  i ail-ddechrau’r broses o  ymgynghori  ar gais a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw gan gwmni niwclear Horizon i dyllu ym Mhorth y Pistyll yn Ynys Môn.

Mae’r mudiad wedi cyhuddo Horizon o ddefnyddio tactegau “dan-dîn” a “thrahaus”  sy’n “llusgo Cyfoeth Naturiol Cymru i mewn i broses ddiffygiol.”

Mae Horizon wedi cyflwyno cais er mwyn ceisio caniatâd i dyllu yn y graig o dan y môr ym Mhorth y Pistyll rhwng atomfa Wylfa a Cemlyn.

Y nod yw profi addasrwydd y graig honno ar gyfer codi glanfa arni i dderbyn deunydd adeiladu ar gyfer dau adweithydd niwclear newydd gerllaw a’r holl adeiladau atodol iddynt.

Mae PAWB yn anhapus â’r broses ymgynghori, sydd ddim yn ddigonol yn eu barn nhw.

‘Dull llechwraidd’

Yn ôl PAWB, dyw Horizon ddim wedi cysylltu â pherchnogion a thenantiaid eiddo gerllaw Porth y Pistyll, ac nid oes dolen gyhoeddus i’r cais ar y we ar gael i’r cyhoedd.

Mae PAWB hefyd wedi beirniadu’r cwmni am osod copi o’r cais mewn un llyfrgell yn Ynys Môn yn unig, a hwnnw yng Nghemaes sydd ar agor am 9 awr yr wythnos.

Yn ôl y mudiad, mae hyn yn “dacteg gwbl fwriadol gan Horizon Nuclear i dynnu cyn lleied o sylw â phosibl at y cais a sicrhau’r caniatâd mewn dull llechwraidd a gwrth-ddemocrataidd.”

Y penderfyniad yn nwylo CNC

Gan fod y lleoliad ar y môr, mae angen trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fynd ymlaen â’r gwaith o dyllu’r graig.

 

Wrth ymateb i gwestiynau Golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn cais gan Horizon i wneud gwaith dryllio ym Mhorth y Pistyll ym mis Mai 2015.

 

‘Dim angen ymgynghoriad llawn’ – Horizon

 

Yn ôl llefarydd ar ran Horizon, gan nad oes unrhyw waith adeiladu yn digwydd ar y safle, nid oedd angen gwneud ymgynghoriad llawn. Er eu bod, yn unol â deddfwriaeth, wedi rhoi hysbysiad mewn papur lleol ac wedi rhoi’r cais yn Llyfrgell Cemaes.

Pryder am fywyd gwyllt yr ardal

Mae PAWB wedi codi eu pryderon y gall y dryllio hwn greu perygl i fywyd gwyllt yr ardal, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud na fydd effaith fawr ar fywyd gwyllt gan mai gwaith dros dro fydd hyn.

Mae pryder hefyd am olion hen felin gafnan, sydd wedi cael eu darganfod gan archeolegwyr ar y traeth yn ddiweddar. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddant yn cymryd effaith ar archeoleg leol i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad ar y cais.