Cecil y llew
Mae disgwyl i’r deintydd o’r Unol Daleithiau, a oedd wedi wynebu beirniadaeth lem ar ôl iddo ladd y llew Cecil yn Zimbabwe, ddychwelyd i’r gwaith heddiw.

Fe gyhoeddwyd enw Walter Palmer ar ddiwedd mis Gorffennaf ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai ef oedd yn gyfrifol am hela’r llew adnabyddus.

Yn y dyddiau ar ôl hynny, roedd wedi cael ei fygwth, ei feirniadu ar wefannau ar-lein a chafodd protestiadau eu cynnal y tu allan i’w swyddfa yn Minnesota.

Mewn cyfweliad, dywedodd Walter Palmer ei fod yn teimlo’n ddigon diogel i fynd yn ôl i’r gwaith, a bod ei staff a’i gleifion yn awyddus iddo ddychwelyd.

Mae’r deintydd yn credu ei fod wedi ymddwyn yn gyfreithiol a’i fod wedi cael ei synnu o glywed bod y grŵp hela roedd yn rhan ohono wedi lladd anifail oedd yn cael ei drysori gan y gymuned.

Roedd Cecil yn adnabyddus ym Mharc Cenedlaethol Hwange ac roedd yn rhan o waith ymchwil gan Brifysgol Rhydychen.