Fe fydd David Cameron dan ragor o bwysau heddiw i wneud mwy i helpu ffoaduriaid ar ôl iddo gyhoeddi ddoe y bydd 20,000 o ffoaduriaid yn cael eu hail-gartrefu yn y DU dros y pum mlynedd  nesaf.

Mae Archesgob Caergaint wedi wfftio’r ymateb gan ddweud nad yw’n mynd yn ddigon pell ac mae’r Blaid Lafur wedi gorfodi cynnal dadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ynglŷn â’r argyfwng ffoaduriaid.

Mae Llafur yn galw am ymrwymiad i ail-gartrefu llawer mwy na’r 4,000 o ffoaduriaid a fydd yn cyrraedd y DU eleni ac yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain hefyd gymryd cyfran o’r rhai sydd eisoes yn Ewrop.

Ond dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r cynllun newydd yn cwrdd â “chyfrifoldeb moesol” y wlad.