Reyaad Khan
Mae ’na feirniadaeth y bore ma yn dilyn cyhoeddiad David Cameron ddoe bod y jihadydd Reyaad Khan, o Gaerdydd, wedi cael ei ladd gan awyren ddi-beilot yr Awyrlu yn Syria.

Mewn datganiad yn y Senedd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog bod Reyaad Khan wedi’i amau o gynllwynio ymosodiadau brawychol yn y DU.

Cafodd Reyaad Khan ei ladd yn dilyn ymosodiad ar y cerbyd roedd yn teithio ynddo ar 21 Awst yn ardal Raqqah, Syria.

Mae ’na feirniadaeth bod yr ymosodiad yn gosod “cynsail peryglus” a rhybuddion y gallai arwain at her gyfreithiol.

‘Cwbl gyfreithlon’ – Fallon

Ond mewn cyfweliad y bore ma mynnodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon bod yr ymosodiad yn “gwbl gyfreithlon” ac na fyddai’n “oedi cyn gwneud hynny eto.”

Fe gyfaddefodd mai ef oedd wedi awdurdodi’r ymosodiad gan awyren ddi-beilot gan honni nad oedd dewis ganddo ond ceisio amddiffyn Prydain rhag bygythiad brawychol.

“Roedd y weithred yma yn gwbl gyfreithlon cyhyd a’i fod yn angenrheidiol ac yn gymesur,” meddai mewn cyfweliad gyda Good Morning Britain ar ITV.

“Nid oedd unrhyw ffordd arall o ddelio gyda’r brawychwyr yma heblaw cynnal ymosodiad milwrol.”

‘Targedu’r Frenhines’

Fe ddywedodd David Cameron mai dyma’r “achos gyntaf o ymosodiad yng nghyfnod modern Prydain” i gael ei lansio mewn gwlad dramor lle nad yw’n rhan o’r rhyfel.

Fe ddywedodd fod ymosodiad yr Awyrlu yn un “cymharol arbennig” ond fe rybuddiodd y byddai’n gwneud yr un peth eto.

Cafodd y cyrch ei gymeradwyo gan y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ond heb ganiatâd  y Senedd.

Roedd y dinesydd Prydeinig, Ruhul Amin, un o ddau ymladdwr arall a oedd wedi ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), wedi cael ei ladd yn yr ymosodiad. Daeth dridiau yn unig ar ôl i awyren ddi-beilot yr Unol Daleithiau ladd Junaid Hussein o Brydain, a oedd hefyd yn cael ei amau o gynllwynio gweithredoedd brawychol.

Mae ’na honiadau mai digwyddiadau uchel eu proffil, lle’r oedd y Frenhines yn bresennol, oedd targed y gweithredoedd brawychol. Ond mae Downing Street wedi gwrthod cadarnhau’r manylion gan ddweud y gallai amharu ar erlyniadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

‘Sail gyfreithiol glir’

Dywedodd y Prif Weinidog eu bod yn gallu cyfiawnhau’r ymosodiad ar Khan yn un o wersylloedd IS yn Raqqah ar  sail “hunanamddiffyniad” gan fod Khan a Hussain yn gysylltiedig â recriwtio pobl i IS a chynllwynio nifer o weithredoedd brawychol.

Roedd y Twrne Cyffredinol  Jeremy Wright wedi cytuno bod yna “sail gyfreithiol glir”, meddai David Cameron wrth ASau.

Mae Llafur wedi galw am gyhoeddi’r cyngor cyfreithiol ac mae’r cyn Dwrne Cyffredinol, Dominic Grieve, wedi dweud ei fod yn disgwyl gweld her gyfreithiol yn cael ei gynnal ar sail hawliau dynol.

Mae’r ymosodiad yn cael ei weld fel ymdrech i ymestyn gweithredoedd milwrol y DU yn erbyn IS yn Syria. Ar hyn o bryd, mae lluoedd y DU wedi’u cyfyngu i ymosodiadau yn Irac, ond mae ’na bwysau i ymuno ag ymosodiadau o’r awyr, sy’n cael eu harwain gan yr Unol Daleithiau, ar safleoedd IS dros y ffin.