Mae Leigh Halfpenny allan o Gwpan Rygbi’r Byd wedi iddo anafu gewyn croesffurf blaen yn ystod yr ornest yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Enillodd Cymru’r ornest baratoadol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd o 23-19, ond roedd anafiadau i’r cefnwr ac i’r mewnwr Rhys Webb yn gysgod dros y canlyniad.
Cafodd y newyddion am Halfpenny ei gadarnhau yn dilyn sgan heddiw.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru y byddai’n rhaid cynnal rhagor o brofion cyn y bydd sicrwydd ynghylch pa mor ddifrifol yw’r anaf i Halfpenny.
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Halfpenny, sydd wedi sgorio 508 o bwyntiau i Gymru, fod allan am hyd at chwe mis.
Yn dilyn yr anafiadau i’r ddau chwaraewr, dywedodd y maswr Dan Biggar fod y sefyllfa’n “drychinebus”, ac mae cyn-asgellwr Cymru, Shane Williams wedi beirniadu’r prif hyfforddwr Warren Gatland am ddewis Halfpenny mor agos i’r gystadleuaeth.
Mae Eli Walker yn y garfan yn ei le.