Mae blaenasgellwr y Gleision, Josh Turnbull wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r rhanbarth.

Roedd ei gytundeb blaenorol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn, ac mae’r estyniad yn golygu y bydd yn aros gyda’r rhanbarth tan o leiaf 2018.

Symudodd Turnbull, sydd wedi ennill saith cap i Gymru, o’r Scarlets yn 2013.

Sgoriodd e dri chais yn ei dymor cyntaf gyda’r Gleision.

Mae e bellach wedi cynrychioli timau Cymru dan 18, dan 19 a dan 20, ac wedi chwarae i’r tîm dan 19 yng Nghwpan y Byd ddwy waith.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf yn 2011, gan ymddangos ar y cae am y tro cyntaf yn ystod y fuddugoliaeth dros yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru hefyd am y teithiau i Awstralia yn 2012 ac i Dde Affrica yn 2014.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson: “Ry’n ni wrth ein bodd fod Josh wedi ymestyn ei gytundeb.

“Mae e’n chwaraewr dw i’n ei nabod yn dda iawn, wedi i ni gydweithio yn y Scarlets, ac rwy wrth fy modd ei fod e ynghlwm wrth Gleision Caerdydd.

“Mae e’n arweinydd go iawn, rhywun sy’n taflu i gorff o gwmpas ac mae e’n broffesiynol dros ben.”

Ychwanegodd Josh Turnbull: “Rwy’n falch iawn o arwyddo am ddwy flynedd arall ar ben fy nghytundeb presennol, a ’mod i wedi gallu dangos fy ymrwymiad.

“Bellach, galla i edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod a’r tair blynedd nesaf yng Ngleision Caerdydd, yn enwedig gyda Danny Wilson yn dod i mewn gan ei fod e’n ffactor mawr wrth i fi aros.”