Fe fydd Elia Viviani o’r Eidal yn gobeithio adeiladu ar ei lwyddiant yng Nghymru wrth i ras y ‘Tour of Britain’ symud i Swydd Gaerhirfryn heddiw.
Viviani o Team Sky ddaeth i’r brig yn dilyn cymal cyntaf cyffrous o Fiwmares i Wrecsam brynhawn ddoe.
Heddiw mae’r ras yn symud i Ribble Valley, sef etholaeth yr Aelod Seneddol o Gymru, Nigel Evans.
Bydd yr ail gymal yn mynd o Clitheroe i Colne a thrwy goedwig Bowland, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Yn ystod y cymal cyntaf, llwyddodd Viviani i drechu Mark Cavendish o Ynys Manaw ac Andre Greipel o’r Almaen wrth wibio tua’r llinell derfyn.
Ar ddechrau’r ail gymal, roedd gan Viviani fantais o bedwar eiliad dros Cavendish.
Dyma’r ail waith i Viviani ennill cymal cynta’r ras – y tro arall oedd yn 2013 yng Nghastell Drumlanrig yn yr Alban.
Roedd yn edrych yn debygol y byddai Cavendish yn mynd â hi tua’r terfyn ond wrth iddo amddiffyn yn erbyn ymosodiad gan Greipel, manteisiodd Viviani ar gyfle euraid i groesi’r llinell o drwch blewyn.
Ar ddiwedd y cymal Cymreig, dywedodd Elia Viviani: “Roedd yn anodd rheoli’r brêc ond fe weithion ni drwy’r dydd am y diweddglo hwnnw.
“Gwnaeth Andy Fenn waith gwych ac roedd e mor gryf heddiw, dw i’n credu ei fod e mewn cyflwr da.
“Gwnaeth Ben Swift benderfyniadau perffaith hefyd, wrth benderfynu pryd i weithio, pryd i gau’r bwlch.
“Gyda chan metr i fynd, ro’n i’n meddwl ei bod yn rhy hwyr ond daeth Greipel i mewn rhyngof fi a Cav. Wedyn aeth Cav i mewn i ganol y ffordd ac fe welais i fwlch ar y chwith a gwibio’n galed.
“Roedd hi’n agos iawn. Do’n i ddim yn gwybod a oeddwn i wedi ennill ond pan waeddodd Cav ‘O na!’, dyna pryd y des i sylweddoli.”