Mils Muliaina
Fe fydd y chwaraewr rygbi o Seland Newydd, Mils Muliaina yn mynd gerbron llys y flwyddyn nesaf wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes yng Nghaerdydd.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, cafodd y dyddiad ar gyfer yr achos ei bennu gan y barnwr Eleri Rees.

Mae Muliana, sydd bellach yn chwarae i’r Zebre yn yr Eidal, wedi’i gyhuddo o un achos o ymosod yn rhywiol ar Fawrth 7.

Oriau’n unig cyn y digwyddiad honedig, roedd Muliaina yn chwarae i Connacht yn y brifddinas.

Fis yn ddiweddarach, cafodd ei arestio gan yr heddlu yn stadiwm Kingsholm yng Nghaerloyw.

Dydy Muliaina ddim wedi pledio’r naill ffordd na’r llall eto, ond mae disgwyl iddo wadu’r cyhuddiad yn ystod gwrandawiad pellach fis nesaf.

Mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau ar Chwefror 22 y flwyddyn nesaf.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.