Ar ôl gêm gyfartal Cymru yn erbyn Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr, dywedodd Aaron Ramsey ei fod e a’i gyd-chwaraewyr wedi elwa tipyn o’r profiad, er y siom o beidio cadarnhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016.
Mae gan Gymru ddwy gêm ar ôl i sicrhau eu lle – y gyntaf yn erbyn Bosnia oddi cartref a’r ail gartref yn erbyn Andorra, felly mae yna dipyn o hyder o hyd – disgwyliad, bron iawn – sy’n gallu bod yn deimlad peryglus iawn i gefnogwr Cymru – ein bod ni am gyrraedd y twrnament.
Ond cyflwynodd Israel sialens wahanol i Gymru neithiwr, gan ddefnyddio tactegau amddiffynnol iawn er mwyn ceisio atal pŵer ymosodol enfawr Cymru, a llwyddon nhw i atal Cymru rhag sgorio, wrth i’r gêm orffen yn ddi-sgôr.
Gwersi
Edrychodd Aaron Ramsey yn ôl ar y profiad fel un positif iawn i’r tîm, ac fel rhywbeth y bydd rhaid i’r garfan ddysgu oddi wrtho os ydyn nhw am gymryd y cam nesaf yn eu datblygiad.
“Wrth i ni ddod yn fwyfwy llwyddiannus, bydd rhaid i ni ddelio efo hynny, mae timau am wneud hyn yn ein herbyn ni. Bydd rhaid i ni fod yn fwy clinigol o flaen y gôl a chymryd mwy o’n cyfleoedd ni – rhywbeth roedd y tîm yn methu gwneud heno, sydd yn siomedig.
“Rydym ni wedi dysgu o’r gêm yma hefyd, sut i ddangos amynedd, sut i symud y bêl yn gyflymach, gwybod pwysigrwydd agor y bwlch yna i fyny, a wedyn dangos y gallu i gymryd mantais o hynny. Os gallwn ni wneud hynny, bydd gemau fel hyn yn agor i fyny i ni’n syth a bydd o lot haws i ni.’
Dydy Bosnia ddim y lle hawsaf i chwarae, ond dyna’r sialens i Gymru yn Zenica fis nesaf gan mai dim ond pwynt sydd ei angen o’r chwech sydd ar gael o hyd.
Llwyddodd Cymru i gael pwynt yn erbyn Bosnia yn y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd yn gynharach yn yr ymgyrch yma, ond mae perfformiadau’r ddau dîm wedi gwella dipyn ers hynny, felly mae rhai yn credu y bydd hi’n gêm anodd i’w darogan.
Mynnodd Ramsey bod ganddo fo a’i gyd-chwaraewyr ddigon o hyder i wneud beth sydd ei angen yn Zenica ar Hydref 10.
“Rydym ni’n hyderus y gallwn ni fynd i Bosnia a chael un pwynt, neu gael triphwynt, dyna’r hyder sydd yn y tîm yma ar y funud, felly gobeithio byddan ni’n gallu gwneud hynny a chael diweddglo llwyddiannus i’r ymgyrch yma.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel, ac maen nhw yn siŵr o’n helpu ni yn y ddwy gêm sydd ar ôl, bendant yn Zenica, ond weithiau mae’n haws chwarae oddi cartref achos mae timau eisiau sgorio yn ein herbyn ni a pheidio eistedd tu ôl y bel fel gwnaeth Israel heno.”
Stori: Jamie Thomas