Ar ôl canlyniad yn erbyn Israel yng Nghaerdydd yr oedd rhai yn ei alw’n siomedig, dywedodd hyfforddwr Cymru, Chris Coleman ei fod yn teimlo’n rhwystredig ynghylch y gêm gyfartal neithiwr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Aeth Cymru i mewn i’r ornest hon efo gobeithion o gadarnhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016 y flwyddyn nesaf, gan wybod y byddai ennill y gêm yn caniatâu i hynny ddigwydd.
Yn anffoddus, diolch i dactegau amddiffynnol Israel, er cymaint o feddiant gafodd Gymru, doedd hi ddim yn bosib i’r Dreigiau gael y gôl hollbwysig, a rwan mae angen un pwynt arall o’r chwech sydd ar gael er mwyn sicrhau eu lle yn Ffrainc.
Dywedodd Coleman nad oedd e’n siomedig ynghylch methu â chwblhau’r dasg o gymhwyso yn y cyfnod hwn o gemau rhyngwladol:
“Ar ddiwedd y dydd, cawson ni 4 pwynt allan o 6, os ydyn ni yn cyflawni’r un fath yn y ddwy gêm nesaf byddan ni wedi llwyddo i gyrraedd Ffrainc, achos dim ond un pwynt sydd angen arnon ni, a wedyn mae e i gyd drosodd.
“Roedd y gefnogaeth gawson ni heddiw yn fendigedig,fe fyddai wedi bod yn wych i gael ei wneud e o’r diwedd yn y brifddinas. Mae’n cefnogwyr ni wedi bod mor dda yn fan hyn, ond dyna ni, nid fel’na oedd e am fod.”
Tactegau amddiffynnol
Roedd rhai wedi synnu hefo’r system a chwaraeodd Israel yng Nghaerdydd. Mae 5-3-2 yn system eithaf prin y dyddiau yma, er bod Cymru yn ei defnyddio, ond roedd gweld Israel yn ei defnyddio’n awgrymu o’r cychwyn eu bod nhw am fod yn ofalus iawn wrth fynd o gwmpas y gêm.
Dywedodd Coleman nad oedd o’n siomedig hefo dull gweithredu Israel yn y gêm, oherwydd mae Cymru wedi elwa yn y grŵp rhagbrofol hwn eu hunain o fynd i wledydd tramor a chwarae mewn ffordd amddiffynnol:
“Chwarae teg i Israel, wnaethon nhw ddod yma gyda phwrpas, i barcio’r bws, fel roedden ni wedi gwneud yng Ngwlad Belg – does dim cwynion gennym ni – ond dwi’n meddwl gyda dwy gêm mewn pedwar diwrnod a’r disgwyliadau sydd arnon ni, mae’n rhywbeth newydd i ni, ac mae’n rhaid i ni ddelio gyda hynny.”
Ychwanegodd Coleman hefyd nad oedd e’n teimlo fod ei chwaraewyr wedi gallu gwneud mwy nag y gwnaethon nhw yn y gêm:
“Alla i ddim gofyn am fwy gan y chwaraewyr ar ôl perfformiad fel’na, chwarae teg iddyn nhw. Roedden nhw wedi blino pan ddaethon nhw i fewn ar ôl y gem. Gwnaethon nhw roi popeth roedden nhw’n gallu i fewn iddi.”
Pa mor bell mae’r tîm wedi dod? – Ymateb Jamie Thomas
Dwi wedi cyfeirio ato fo yn nifer o erthyglau’n ddiweddar – pwy fasa wedi meddwl ar ôl colli o 6-1 yn erbyn Serbia, y basa Cymru yn ffeindio’u hunain yn y sefyllfa mae nhw ynddi nawr?
Does na’m dadla’r ffaith wnaeth Cymru fethu cyflawni eu targed nhw pan oedd y cyfle ganddyn nhw, ond mae’n werth cofio pa mor bell mae’r garfan wedi dod yn ddiweddar.
Heb sôn am hanes teyrnasiad Coleman i gyd, does ond angen edrych ar ddechrau’r ymgyrch yma i ddarganfod pa mor bell mae Cymru wedi dod o dan ei arweiniad.
Ychwanegodd Coleman: “Ar ddechrau’r ymgyrch, tasech chi wedi dweud y byddai ’na ddwy gêm ar ôl ac y bydden ni’n arwain y grŵp, ac y bydden ni’n siomedig ar ôl cael pedwar pwynt allan o’r chwech yma, mae hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa ym myd pêl-droed Cymru ar y funud.
“Flwyddyn yn ôl, bydden ni wedi bod yn hapus dros ben gyda hynny. Nawr mae rhai pobl ychydig bach yn siomedig.”
Stori: Jamie Thomas