Cyffro'r gêm yng Nghaerdydd heno
Ofer fu gobeithion Cymru am fuddugoliaeth yn erbyn Israel wrth i’r gêm orffen yn ddi-sgôr heno.
Mae’n golygu y bydd yn rhaid gohirio’r dathliadau ar hyn o bryd, ond mae Cymru’n dal mewn sefyllfa gref iawn i fynd trwodd i rowndiau terfynol Euro 2016 yr haf nesaf.
Mae gêm gyfartal wedi sicrhau ein bod gam sylweddol yn nes at fynd trwodd i dwrnameint rhyngwladol mawr am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd.
Cymru oedd yn ymosod drwy gydol y gêm, ond methiant oedd pob ymgais i gael y gôl dyngedfennol. Andy King yr agosaf i sgorio ar ddau achlysur, ac am unwaith, doedd Gareth Bale ddim ar ei orau heno.
Cafwyd cyffro mwyaf y gêm yn y eiliadau olaf un wrth i Simon Church benio’r bêl i’r rhwyd, ond cafodd y gôl ei gwrthod am iddo gamsefyll.
Gyda 18 pwynt ar ôl wyth gêm, mae Cymru’n dal i fod ar frig Grwp B. Gyda dwy gêm i fynd – un yn Bosnia a’r llall gartref yn erbyn Andorra – mae’n debygol o fod angen un pwynt arall er mwyn sicrhau ei lle yn Ffrainc.