Eisteddle Canton yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn barod ar gyfer y gêm
*Gareth Bale yn sgorio i Gymru ar ol 25 munud
*Y ddau dîm yn gobeithio cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf
*Gareth Bale yn ennill ei 50fed cap heno
*Torf o 33,280 yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm
21.46: Canlyniad hollol wych i Gymru! Mi fydd Caerdydd yn bownsio heno! Yr ymateb i gyd i ddod ar Golwg360.
21.37: Y chwib olaf! Cymru wedi ennill!
21.35: King ymlaen am HRK.
21.34: Tri munud o amser ychwanegol, wrth i Belg wastraffu cic rydd.
21.32: Y glaw yn disgyn rwan, ond cefnogwyr Cymru yn beltio’r anthem unwaith eto. Maen nhw ychydig funudau i ffwrdd o greu hanes.
21.30: Mae Bale yn hercian. Vokes yn dod ymlaen yn ei le. Pedwar munud ac amser anafiadau i fynd. Da iawn ti Bale, ti ’di gwneud dy shifft.
21.25: Chwaraewyr Belg yn rhedeg at y reff i ofyn am gerdyn coch i Allen am faglu Hazard, ond na meddai Mr Felix Brych.
21.23: Cymru dal heb wneud yr un eilydd. A’r ffordd maen nhw wedi bod yn chwarae, pam ddylen nhw?!
21.20: ‘I love you baby, and if it’s quite alright …’ – y caneuon yn llifo rwan, pymtheg munud i Gymru ddal ymlaen.
21.17: Eilydd i Wlad Belg, Alderweireld ffwrdd a Ferreira-Carrasco ymlaen.
21.14: ‘Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad …’ – mae’r stadiwm yn bownsio. Dw i’n siwr eich bod chi eisiau bod yma, ac i fod yn deg fyswn i ddim yn malio bod yn y Canton yn canu ar y funud chwaith!
21.12: ‘And we were singing, hymns and arias …’ – ugain munud arall o hyn ac fe fydd y canu yn mynd ymlaen drwy’r nos. Ond digon o amser i fynd wrth gwrs.
21.09: Bale heb wir gael cyfle i danio un o bellter eto. Ond mae o wedi cael gol ar ei 50fed cap yn barod wrth gwrs. C’mon Gareth, un arall jyst i setlo’r nerfau. 66 munud wedi bod o’r gem.
21.06: Alderweireld yn methu peniad. Rwan HRK ’di ennill cic rydd i Gymru. Cefnogwyr yn canu ‘we are top of the league’.
21.02: Cerdyn melyn i Lombaerts am faglu Gareth Bale. Reit, rhedwch amdano fo eto felly!
21.01: Bale yn mynd i lawr yn y cwrt cosbi, ond tacl dda oedd hi. Belg un ymosod eto.
20.56: Ergyd arall i Wlad Belg, Alderweireld y tro yma, ond dros y trawst mae’n mynd. Cymru yn gwneud job gweddol o atal y gwrthwynebwyr rhag cael cyfleoedd amlwg.
20.52: Cyfle gwych i Kevin de Bruyne, sy’n saethu heibio i’r postyn o ymyl y cwrt cosbi. Cymru yn dechrau’r ail hanner ychydig yn nerfus, ond yna cyfle arall o beniad i Robson-Kanu.
20.49: Dechrau’r ail hanner, ac mae Romelu Lukaku wedi dod ymlaen am Dries Mertens. A bron yn syth, mae Benteke yn methu cyfle o dri llathen ar ol cic gornel!
20.44: Cefnogwyr Cymru yn cael eu sbwylio rwan, Zombie Nation ar y tannoy am yr ail waith.
Ond llai o fownsio tro yma – dw i’n cymryd bod lot wedi mynd am dy bach a diod.
20.41: Gyda llaw, yng ngem fawr arall y grwp mae Bosnia yn curo Israel 2-1. Mi fydd rhaid i ni aros tan ddiwedd y gem i weld beth mae hynny’n ei olygu i obeithion Cymru.
Y cyswllt we ’ma dal yn araf, ond dw i ddim mewn hwyliau rhy ddrwg ar hyn o bryd o ystyried y sgor!
20.38: Reit, pawb i gael eu gwynt at ei gilydd. Pwyllwch rwan. Dim ond hanner amser ydi hi.
Ond mi roedd honna bron yn hanner perffaith i Gymru. Lwcus efo’r gol, ond maen nhw wedi bod llawn cystal a Gwlad Belg hyd yn hyn, ac mi ddylai Hal Robson-Kanu fod wedi sgorio ail gol a dweud y gwir.
20.32: Hanner amser, a Chymru ar y blaen o 1-0! Pwy fyddai wedi meddwl!
20.28: Mi gafodd Joe Allen gerdyn melyn gynnau gyda llaw, am drosedd ar Hazard. Os dw i’n iawn, mae hynny’n golygu ei fod o’n methu’r gem nesaf i ffwrdd yn Cyprus.
20.25: Peniad arall heibio i’r postyn i Hal Robson-Kanu. Gwlad Belg yn edrych mewn sioc ar y funud, Cymru yn llawn hyder. Y canu yn atseinio rownd y stadiwm eto.
20.20: Cyfle gwych i Gymru! Courtois yn arbed gan Bale, a Hal Robson-Kanu rhywsut yn methu targed agored o ddeg llathen!
20.17: Wel, mae hynny’n newid pethau! Cymru ar y blaen, a’r stadiwm yn lot mwy swnllyd rwan. Cymru yn chwarae stwff da.
20.12: Gol i Gymru, Gareth Bale! Ping pong pen yn y cwrt cosbi, Nainggolan yn trio penio hi nol i’r golwr, ac mae’n glanio syth wrth draed Bale sydd ddim am fethu o fanno! Am gamgymeriad, ac am gol bwysig!
20.09: Cic rydd i Gymru yn y gornel, Denayer yn llusgo HRK lawr …
20.06: Cymru yn dechrau dod mwy i fewn i’r gem, Courtois yn delio yn gyfforddus efo un croesiad i mewn i gwrt cosbi Belg. Mae’r we ’ma dal yn chwarae fyny rhywfaint.
20.03: Cefnogwyr Cymru yn gandryll bod Denayer heb gael ei gosbi am drosedd ar Bale, asgellwr Cymru yn gwibio lawr yr asgell chwith.
20.01: Dau gyfle da i Wlad Belg, Hennessey yn arbed gan Nainggolan a wedyn Hazard yn ei tharo hi dros y bar. Belg yn bygwth hyd yn hyn.
19.52: Mae gan Jazz Richards noson hir o’i flaen, gydag Eden Hazard yn ymosod tuag ato i lawr yr asgell chwith. Ond cic gornel i Gymru rŵan o rediad Bale.
19.50: Cyfle cyntaf i Wlad Belg, croesiad o’r dde ond Benteke methu ei chyrraedd hi. Gwŷr Harlech yn atseinio’n barod.
19.44: Cymru wedi ennill brwydr yr anthemau, ac mae’r gem ar fin dechrau.
19.33: ZOMBIE NATION!
19.28: Reit, mae’r sŵn wedi dechrau codi rŵan! Cefnogwyr Cymru yn dechrau ffeindio’u lleisiau – ac am rhyw reswm, mae ’na glwstwr o ffans Gwlad Belg jyst i’r chwith ohonym ni. Well eu bod nhw’n bihafio …
19.20: Mwy o newyddion tywydd i chi – mae hi wedi dechrau bwrw glaw mân yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Y newyddion da ydi mod i’n eistedd yn reit uchel yn eisteddle’r wasg, felly dim peryg ar y funud fod y laptop yn mynd i gael sociad.
19.16: Bach o broblemau efo’r we yn fan hyn, ond ia, mae’r Super Furrys newydd fod yn chwarae. Y stadiwm tua hanner llawn ar y funud, er gwaethaf galwad Cymru ar i’r cefnogwyr gyrraedd yn gynnar.
18.41: Tipyn o syndod, felly, wrth i Coleman ddewis pump yn y cefn i Gymru, yr un system a chwaraeon nhw yn Israel.
18.38: Wel, dyna gadarnhau’r si – Jazz Richards yn dechrau i Gymru heno!
Y tîm ydi Hennessey, Richards, Gunter, Williams, Chester, Taylor, Ledley, Allen, Ramsey, Bale, Robson-Kanu.
18.35: Gwlad Belg wedi cyhoeddi eu tîm – Courtois, Alderweireld, Denayer, Lombaerts, Vertonghen, Nainggolan, Witsel, De Bruyne, Mertens, Hazard & Benteke.
18.34: Dyma sut olwg sydd ar Stadiwm Dinas Caerdydd heno, gyda chwaraewyr Cymru yn mynd am dro ar y cae yn gynharach.
Dilynwch y linc yma i weld y fideo.
18.25: Mae’r chwaraewyr newydd gyrraedd ac wedi bod allan ar y cae – roedd Gareth Bale ar ei ffôn, a’r Cymro Adam Matthews a Jason Denayer o Wlad Belg yn sgwrsio â’i gilydd (maen nhw’n gyd-chwaraewyr yn Celtic, cyn i chi ddechrau amau unrhyw beth dodji!).
Mi fydd y timau yn cael eu cyhoeddi cyn hir – pwy hoffech chi weld Chris Coleman yn ei ddewis? Si ar y funud y gallai Jazz Richards ddechrau …
18.09: O ran yr awyrgylch drydanol ’da ni’n disgwyl yma heno, mi allai hynny fod yn llythrennol hefyd. Y sôn oedd bod disgwyl storm darannau yng Nghaerdydd heno, ond hyd yn hyn dydi hi heb hyd yn oed fwrw glaw rhyw lawer.
Mae’r tywydd yn gynnes a chlos iawn, fodd bynnag, felly mi gawn ni weld pa dîm sydd yn mynd i allu ymdopi orau yn yr amgylchiadau.
Dw i’n gaddo mai nid blog am y tywydd fydd hwn gyda llaw, mi fydd ’na sgwrsio am bêl-droed mewn munud!
18.00: Helo, a chroeso i chi i gyd i’r blog byw o Stadiwm Dinas Caerdydd! Mae’r cefnogwyr wedi dechrau cyrraedd yn barod ar gyfer yr ornest fawr, ac mae disgwyl i chwaraewyr Cymru a Gwlad Belg gyrraedd unrhyw funud.
Mae’r tocynnau i gyd wedi gwerthu, ac mae disgwyl awyrgylch drydanol yma heno mewn gornest rhwng dau dîm sydd yn brwydro ar frig y grŵp.
Felly i’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn gallu bod y gêm heno, mi wnai drio cyfleu’r holl gyffro yma yng Nghaerdydd wrth i Gymru geisio cymryd cam mawr tuag at Ewro 2016.