Mae prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford wedi dangos ffydd yn y garfan 13 dyn wnaeth drechu Swydd Middlesex nos Wener diwethaf drwy enwi’r un garfan ar gyfer y daith i Fryste heno.

Pedwar rhediad oedd ynddi ar ddiwedd gornest gyffrous ar gae’r Swalec SSE union wythnos yn ôl, ac mae Morgannwg yn gobeithio am berfformiad tebyg gan eu bowlwyr heno.

Dywedodd Toby Radford: “Ro’n i’n falch iawn gyda’r perfformiad yn erbyn Swydd Middlesex, roedden ni o dan bwysau ar ddechrau’r batiad pan oedden ni’n bowlio ac roedd y ffordd wnaethon ni ddal ati a chael y fuddugoliaeth yn wych.

“Wnaethon ni ymdrechu’n fawr yn y maes ac o ystyried y pwysau, fe wnaethon ni berfformio’n dda iawn gan nad oedden ni wedi dechrau’n dda iawn.

“Mae angen i ni gael perfformiad cyflawn, gan ein bod ni wedi dangos yn y gemau pedwar diwrnod ry’n ni wedi chwarae ynddyn nhw ein bod ni’n batio’n dda weithiau ac yn bowlio’n dda weithiau, ond dy’n ni ddim wedi cael perfformiad cyflawn.”

Un sy’n hyderus o gael buddugoliaeth heno yw batiwr llaw chwith Morgannwg, Colin Ingram.

“Mae hi bob amser yn anodd gorfod dod yn hwyrach yn y tymor ac angen rhoi buddugoliaethau at ei gilydd, felly byddai’n wych eu cael nhw’n gynnar.

“Mae ysbryd da yma a gwefr yn yr ystafell newid, felly dw i ddim yn gweld pam na allwn ni roi rhywbeth at ei gilydd a herio am le yn rownd yr wyth olaf.”

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Cooke, D Cosker, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, C Meschede, W Parnell, A Salter, R Smith, G Wagg, M Wallace, B Wright