Ashley Williams - edrych ymlaen at yr her
Mae capten Cymru Ashley Williams yn cyfadde’i fod yn disgwyl brwydr gorfforol heno wrth i Gymru chwarae Gwlad Belg yn eu gêm bwysica’ ers blynyddoedd.

Fe fydd yr enillwyr heno yng Nghaerdydd, mewn gornest rhwng y ddau dîm sydd ar frig eu grŵp rhagbrofol, yn cymryd cam mawr at gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.

Fe fyddai hynny’n golygu lle i Gymru mewn pencampwriaeth ryngwladol o’r fath am y tro cynta’ ers Cwpan y Byd yn 1958.

‘Cyfarwydd’

Fe fydd chwaraewyr Cymru yn gyfarwydd iawn â nifer o garfan Gwlad Belg, gan fod nifer ohonyn nhw’n sêr yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ac mae Ashley Williams yn disgwyl noson anodd gan ymosodwyr Gwlad Belg– y dewis yw Christian Benteke o Aston Villa neu Romelu Lukaku o Everton.

“Dw i wedi chwarae yn erbyn Benteke a Lukaku ar nifer o achlysuron ac r’yn ni’n gwybod y bydd hi’n gêm anodd, gêm gorfforol,” meddai capten Cymru.

“Mae ganddyn nhw fygythiadau gwahanol, rhai corfforol, digon o gyflymdra yn eu tîm, felly bydd yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus o bopeth. Mae gyda ni ein cynllun, fel arfer.”

Herio’r gorau

Yn ôl Ashley Williams, Benteke yw un o’r ymosodwyr mwya’ peryglus y mae wedi’u hwynebu.

“Dw i’n mwynhau her gorfforol. Mae e’n chwaraewr da iawn. R’yn ni’n gwybod popeth amdano yn fan hyn,” meddai’r amddiffynnwr.

“Dw i’n meddwl ei fod e wedi cael tymor da i Villa. Dw i’n ei ystyried e’n un o’r chwaraewyr gorau ac fel amddiffynnwr mae’n dda herio eich hynan a gweld os allwch chi ennill.

“R’yn ni’n ystyried ein hunain cystal ag unrhyw un dyddiau yma felly fe fydd hi’n her dda.”

Cyffro’n cynyddu

Fe fydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn ar gyfer y gêm heno, gyda phob un o’r 33,000 o docynnau wedi’u gwerthu.

Ac mae capten Cymru yn gobeithio mai dim ond y dechrau yw hyn wrth i Gymru anelu at orffen eu hymgyrch ragbrofol yn llwyddiannus.

“Rydyn ni wedi ei fwynhau e. Mae’n neis fod y wlad yn gyffrous amdanon ni a bod pawb eisiau gwylio’r gêm, un ai ar y teledu neu bobol yn ceisio cael tocynnau,” meddai Ashley Williams.

“Mae’r tocynnau wedi gwerthu’n gyflym iawn a dyna pam yr ’yn ni wedi gweithio’n galed, er mwyn bod pobol â diddordeb mewn pêl-droed Cymru.

“Dw i’n teimlo ein bod ni wedi cyrraedd lefel nawr ble mae e lan i ni i fynd â phethau i’r lefel nesa’ a chryfhau ein safle yn y grŵp.”