Thibaut Courtois (llun: CBDC)
Mae golwr Gwlad Belg wedi dweud mai Cymru yw’r bygythiad mwyaf i Wlad Belg bellach wrth i’r ddau dîm frwydro i geisio cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Fe fydd y ddau dîm, sydd yn hafal ar frig Grŵp B, yn herio’i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos fory gan wybod y byddai buddugoliaeth yn gam mawr tuag at gyrraedd y twrnament flwyddyn nesaf.
Mae Israel dau bwynt y tu ôl i’r ddau dîm, gyda Chyprus a Bosnia hefyd dal yn gobeithio gorffen yn y tri uchaf.
Ond Cymru sydd fwyaf tebygol o herio Gwlad Belg am y prif safle, yn ôl golwr Chelsea.
“Mae’n bwysig i ni ennill er mwyn symud yn agosach at gyrraedd yr Ewros – mae Cymru’n gyntaf gyda ni, felly mae’n bwysig, pwy bynnag sy’n ennill fe fyddan nhw un cam yn agosach at gyrraedd Ffrainc,” meddai Courtois.
“Nhw yw’r agosaf i ni, a nhw sydd gyda’r safon gorau yn eu carfan yn ogystal â Bosnia, ond maen nhw [Bosnia] ychydig tu ôl ni, felly ar hyn o bryd Cymru yw’r bygythiad mwyaf, ac mae’n rhaid i ni geisio ennill fory.”
‘Anodd eu curo’
Mae Cymru eisoes wedi llwyddo i gael dwy gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ar eu hymweliadau â Brwsel, felly mae Courtois yn disgwyl y bydd her yn eu hwynebu yng Nghaerdydd hefyd.
“Pan oeddech chi’n gweld y grŵp roeddech chi’n meddwl mai’r tri thîm caletaf fyddai Belg, Cymru a Bosnia,” cyfaddefodd y golwr.
“Mae ganddyn nhw chwaraewyr da yn eu tîm, mae’n anodd eu curo, a dydi o ddim yn syndod eu bod nhw lle maen nhw.
“O flaen eu cefnogwyr fe fyddan nhw eisiau ennill, ond fyddan nhw ddim yn ymosod heb ots a gadael eu hunain yn agored. Os ydi rhywun yn chwarae’n agored yn ein herbyn ni fe allwn ni ffeindio bylchau ac ennill y gêm, felly dwi ddim yn meddwl gwnawn nhw hynny.”
Gwylio Bale
Gareth Bale, fydd yn ennill ei 50fed cap fory, fydd prif fygythiad ymosodol Cymru.
Ac mae Thibaut Courtois yn ymwybodol o fygythiad tîm Cymru wrth wrthymosod hefyd.
“Dw i’n meddwl mai fo [Bale] ydi’r chwaraewr mwyaf, ond dw i’n meddwl bod Cymru efo tîm da sy’n gwybod sut i roi uned at ei gilydd, amddiffyn yn dda, peidio rhoi cyfleoedd a cheisio gwrthymosod – bydd rhaid i ni amddiffyn yn dda hefyd,” meddai golwr Belg.
“Maen nhw’n amddiffyn yn dda fel tîm, maen nhw’n dîm brwdfrydig, felly os ydyn ni’n cael cyfle i sgorio mae’n rhaid i ni ei gymryd.
“Mae ganddyn nhw fygythiadau yn yr ymosod ac yng nghanol cae hefyd, felly mi allan nhw ein brifo ni os nad ydan ni’n amddiffyn.”