Ni fydd seren India’r Gorllewin, Chris Gayle yn wynebu Morgannwg yn y Swalec ddydd Sadwrn.
Roedd disgwyl i seren Gwlad yr Haf ffarwelio â’r gêm sirol ar ôl yr ornest yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn, ond fe fydd e’n chwarae ei gêm olaf yn erbyn Swydd Surrey nos Wener.
Mae Gayle wedi sgorio 328 o rediadau i Wlad yr Haf yng nghystadleuaeth y T20 Blast y tymor hwn – 85 heb fod allan yn erbyn Swydd Hampshire, 151 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaint a 92 yn erbyn Swydd Essex.
Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Criced Gwlad yr Haf, Matthew Maynard: “Yfory fydd ei gêm ddiwethaf ac mae e’n dychwelyd i’r Caribbean Premier League.
“Mae e wedi bod yn hollol wych i ni, ac fe wnaeth e ofyn am gael ei ryddhau un gêm yn gynnar. Rydym wedi derbyn hynny, gan obeithio y bydd e’n dychwelyd.
“Mae e wedi gwneud yn well na’r disgwyl – mae 328 o rediadau’n dwrnament da i lawer o chwaraewyr, ac mae e wedi gwneud hynny mewn tair gêm.
“Mae e wedi bod yn anhygoel ac wedi mynd y tu hwnt i’r hyn roedden ni wedi’i ddisgwyl. Pan wnaeth e ofyn am gael colli’r gêm yng Nghaerdydd, wnaethon ni ei gefnogi fe.”
“Er ein bod ni braidd yn siomedig nad yw Chris ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Morgannwg, mae ei gyfraniad i Glwb Criced Gwlad yr Haf yn ystod ei arhosiad wedi bod yn rhagorol.
“Hoffwn ddymuno’n dda i Chris ar gyfer y CPL a gobeithiwn ei weld yn lliwiau Gwlad yr Haf yn ddiweddarach yn yr haf.”
‘Ddim yn siomedig nac yn ecstatig’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford nad yw’n “siomedig nac yn ecstatig”.
Mae Radford wedi cydweithio â Gayle yn rhinwedd ei swydd fel is-hyfforddwr India’r Gorllewin.
“Mewn rhai ffyrdd, mae’n siom fawr fod Gwlad yr Haf heb Chris Gayle gan mai fe yw’r gorau yn y byd am wneud yr hyn mae e’n ei wneud, ac roedd ein bowlwyr ni’n awyddus i gynllunio ar ei gyfer e.
“O bersbectif arall, mae e’n gallu cael dylanwad mawr ar gemau ac roedd e’n sicr yn gwneud Gwlad yr Haf yn dîm mwy anodd i’w guro.
“Dw i ddim yn siomedig nac yn ecstatig na fydd e ynghlwm [wrth yr ornest] ac fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar yr hyn sydd angen i ni wneud i ennill y gêm.
“Mae cricedwyr rhyngwladol yn treulio amser hir yn teithio ac fe wnaeth Chris Gayle hedfan i mewn i’n cystadleuaeth ni ar ôl saith wythnos yn yr IPL.
“Roedd e fwy na thebyg wedi bod oddi cartref am ddeg wythnos ac mae e’n awyddus i baratoi ar gyfer y Caribbean Premier League.”