Gareth Bale yn ystod sesiwn ymarfer yr wythnos hon (llun: CBDC)
Mae cyrraedd y garreg filltir o 50 cap yn brawf o ymroddiad ac angerdd Gareth Bale i’w wlad, yn ôl rheolwr Cymru Chris Coleman.

Fe fydd yr ymosodwr yn chwarae dros Gymru am yr hanner canfed tro pan fydd bechgyn Chris Coleman yn wynebu Gwlad Belg nos fory mewn gornest fawr ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016.

Mae’n naw mlynedd bellach ers i Bale chwarae ei gêm gyntaf mewn crys Cymru, ac yntau ond yn 16 oed ar y pryd, ac mae bellach wedi datblygu i fod yn un o sêr pêl-droed mwyaf y byd.

Ac mae Coleman yn falch fod y garreg filltir benodol yma i chwaraewr drytaf y byd yn dod mewn cyfnod ble mae’r tîm cenedlaethol yn chwarae cystal ag y maen nhw wedi’i wneud ers blynyddoedd.

“Mae’n deilwng ei fod e’n digwydd ar achlysur fel hwn [Bale yn ennill ei 50fed cap], gornest fawr ar frig y tabl,” meddai rheolwr Cymru.

‘Dangos angerdd’

Dim ond tri o garfan bresennol Cymru sydd wedi ennill 50 cap dros eu gwlad cyn nawr – Chris Gunter, Joe Ledley ac Ashley Williams.

Ond mae eraill fel Bale a’r golwr Wayne Hennessey ar drothwy’r hanner cant, ac mae Coleman eisoes wedi herio’i chwaraewyr i geisio pasio recordiau Gary Speed (85) a Neville Southall (92) a chyrraedd y 100.

“Rhif yw e, ond mae hefyd yn brawf eich bod chi wedi bod yno i’ch gwlad, wedi dangos yr angerdd yna, y gwnaethoch chi droi lan pryd bynnag roeddech chi’n gallu, ac mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch ohono,” meddai Chris Coleman.

“Felly i Bale i gyrraedd 50 ar yr oed yna [25 oed], mae Gunter bron wedi cyrraedd 60 … dyna’r esiampl sydd angen ei osod, ac mae Gareth yn dangos hynny.

Anwybyddu sylw’r byd

Yn ogystal â brwydr fawr rhwng Cymru a Gwlad Belg ar frig Grŵp B, mae’r gêm nos Wener hefyd wedi cael ei disgrifio fel gornest rhwng Gareth Bale ac Eden Hazard, dau o ymosodwyr gorau’r byd.

Mae Bale bellach wedi gorfod ymdopi â sylw parhaus o’i berfformiadau, ac yntau’n chwarae i Real Madrid ble nad yw’r sylw yn dod oddi arno am eiliad.

Ond perfformio ar gyfer Cymru a’i chefnogwyr fydd Bale nos fory, nid cyfryngau’r byd, yn ôl ei reolwr.

“Mae e’n gwybod ei fod e’n chwaraewr gwych, os nad yw pethau’n digwydd iddo fe ar y bêl fe wnaiff e wneud yn siŵr bod pethau’n digwydd oddi ar y bêl, a gyda’i allu fe mae’n gallu newid gêm mewn eiliad,” meddai Chris Coleman.

“Bydd e eisiau perfformio ar gyfer ei gyd-chwaraewyr gyntaf, a’r dorf, dyna pwy mae e yna i blesio.

“Fydd e ddim yn meddwl am weddill y byd, bydd e’n meddwl ‘dwi yma i wneud hyn ar gyfer cyhoedd Cymru’.”

‘Cyflawni rhywbeth arbennig’

Gyda Chymru yn hafal ar frig eu grŵp rhagbrofol hanner ffordd drwy’r ymgyrch, mae’r cyffro a’r disgwyliadau bellach wedi codi a’r cefnogwyr yn obeithiol tu hwnt y gall y tîm gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae Cymru wedi boddi wrth ymyl y lan sawl gwaith yn y gorffennol wrth geisio cyrraedd twrnament rhyngwladol, ond yn ôl Coleman dyw hynny ddim yn pwyso ar feddyliau’r tîm presennol.

“Does gennym ni ddim i’w brofi i’r timau sydd wedi bod cyn ni, mae gennym ni rhywbeth i’w brofi i ni’n hunain,” meddai’r rheolwr.

“Fe fydd hwn yn grŵp [o chwaraewyr] sydd yn hwyr neu’n hwyrach yn cyflawni rhywbeth arbennig.”