Mae’r diwrnod cyntaf o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili wedi dod i ben, ac mae’n bryd felly i ni edrych yn ôl ar fwrlwm dydd Llun yn ein podlediad cyntaf o faes yr ŵyl.

Trystan Ellis-Morris sydd yn ymuno â ni heddiw, wrth iddo sgwrsio â Iolo Cheung am ei ddiwrnod o gwmpas y maes.

Mae’r cyflwynydd S4C yn trafod ei ddiwrnod prysur o flaen y camera heddiw, beth ddaliodd y llygad ar y maes, a sut i ddelio â phlant drygionus sydd eisiau bod ar gamera!

Mae Trystan Ellis-Morris hefyd yn esbonio pam ei fod yn falch bod yr ŵyl ieuenctid yn ymweld â Chaerffili eleni, ac yn talu teyrnged i enillydd y Fedal Gyfansoddi, Charlie Lovell-Jones.

Gallwch wrando ar y sgwrs yma: