Mae apêl wedi’i chyhoeddi er mwyn ceisio dod o hyd i ferch ifanc i chwarae rhan ‘Cosette’ yng nghynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Ieuenctid yr Urdd o Les Miserables.
Mae’r prif rannau eisoes wedi’u dewis ynghyd a’r 130 o bobol ifanc fydd yn rhan o’r corws.
Ond ar ôl methu a dod o hyd i ferch sy’n edrych yn ddigon ifanc i chwarae rhan Cosette, mae’r tîm cynhyrchu – Cefin a Rhian Roberts a Carys Edwards – wedi cyhoeddi apêl yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.
Maen nhw’n chwilio am ferch blwyddyn 4-6 i anfon linc fideo ohonyn nhw’n canu drwy ffurflen gais ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru.
Yna, bydd clyweliadau’n cael eu cynnal ddiwedd mis Mehefin.
Rhan ‘Gavroche’
Fe gyhoeddodd yr is-gyfarwyddwr Carys Edwards hefyd fod rhan y bachgen bach yn y sioe, ‘Gavroche’, wedi ei rannu rhwng Tomi Llywelyn o Frynrefail ac Osian Morgan o Gaerdydd.
Mae’r cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu rhwng 29-31 Hydref ac yn rhan o ddathliadau Canolfan Mileniwm Cymru a Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn ddeg oed, mewn partneriaeth ac Ysgol Glanaethwy a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.