*Plaid yn cadw Arfon, Llafur yn dal gafael ar Lanelli ac Ynys Môn.
*Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw Ceredigion, colli Brycheiniog a Chanol Caerdydd.
*Enillion mawr i’r SNP yn yr Alban.
*Y Ceidwadwyr wneud yn well nag oedd y polau piniwn wedi awgrymu.
5.58pm: Gyda chanlyniadau Cymru wedi eu cyhoeddi, dyna ddiwedd ein blog byw eleni. Gobeithio eich bod chi wedi dilyn, a mwynhau.
Roedd y canlyniadau yn gwbl groes i’r disgwyl, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill mwy o seddi newydd na’r Blaid Lafur.
Noson arbennig i’r Ceidwadwyr yng Nghymru
Dim ond dechrau’r mae’r dadansoddi wrth gwrs – fe fydd y trafod a’r cecru yn parhau drwy’r penwythnos, a thu hwnt!
Arhoswch gyda ni dros y dyddiau nesaf wrth i ni ystyried y sgil effeithiau i Gymru wrth i lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig gael ei ffurfio.
5.48pm: Dadansoddiad Dylan – A’r ola’n dweud y stori
Roedd canlyniad ola’ Cymru’n dweud y cyfan a Llafur yn methu â chipio Bro Morgannwg.
Roedd y Ceidwadwr, Alun Cairns, hyd yn oed wedi cynyddu ei bleidlais a’i fwyafrif.
Fe fydd gan y pleidiau eraill i gyd waith meddwl caled i’w wneud.
Fel y dywedodd eu hunig AS Cymreig, Mark Williams, fe fydd rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddechrau bron o’r dechrau.
Fe fydd rhaid i Lafur edrych yn sylfaenol ar eu hagweddau a’r stori y maen nhw’n ei dweud.
Fe fydd rhaid i Blaid Cymru ofyn pam nad yw hi’n ddewis arall amlwg i bobol Cymry.
Fe fydd rhaid i’r cyfan feddwl sut y byddan nhw’n ymateb wrth i’r Deyrnas Unedig gael ei simsanu gan lwyddiant rhyfeddol yr SNP.
5.31am: Mae’r cyn-AC Alun Cairns wedi cadw ei sedd ym Mro Morgannwg, gyda mwyafrif o 6,880.
5.29am: Mae unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, wedi dweud na ddylai ei blaid fod yn rhan o’r llywodraeth nesa’ hyd yn oed pe bai yna gyfle. Fyddai dim mandad i hynny, meddai, gan ddweud bod rhaid i’r blaid “aildrefnu ac ailadeiladu”. Roedd hi wedi talu’r pris am fod yn rhan o’r glymblaid, meddai.
5.27am: Mae’r cyn-AC dros ogledd Cymru, Antoinette Sandbach, wedi ei hethol yn Eddisbury.
5.25am: Dadansoddiad Dylan – Y pleidiau yn y glorian … a’r rhan fwya’n brin
Gyda dim ond Bro Morgannwg ar ôl heb gyhoeddi, mae’n bosib dod i gasgliadau pendant am berfformiad y pleidiau.
Y Ceidwadwyr – wedi gwneud yn dda mewn seddi ymylol yn Lloegr ac yn arbennig o dda yng Nghymru, gan ddal seddi a rhoi pwysau ar Lafur. Y pedair buddugoliaeth fawr oedd ennill Gwyr. Brycheiniog a Maesyfed a Dyffryn Clwyd a chadw Gogledd Caerdydd.
Llafur – trychinebus yn yr Alban, siomedig yn y rhan fwya o Loegr heblaw Llundain, siomedig yng Nghymru hefyd wrth golli dwy sedd – roedd Gwyr ganddi ers mwy na chanrif. Er ei bod wedi gwneud yn dda yn y rhan fwya o’i seddi ei hun, wnaeth hi ddim tolcio’r Ceidwadwyr yn unman arall. Gwobrau cysur – cadw Môn ac ennill Gogledd Caerdydd.
Plaid Cymru – siomedig. Cryf yn ei seddi ei hun, gan gynnwys cadw Arfon, ond methiant i gipio’r un o’i thargedi, er gwneud yn dda ym Môn. Fe gododd y canran mewn rhai seddi, ond ar lefel isel iawn ac mae UKIP bellach o’i blaen. Fe gaiff Leanne Wood gyfle i arwain y blaid yn etholiadau’r Cynulliad ond, ar ôl methu â manteisio’n llawn ar yr holl sylw ar deledu, fe fydd hi dan bwysau i wneud yn well bryd hynny.
UKIP – dim seddi ond cynnydd yn eu pleidlais ymhobman, gan ddisodli’r Democratiaid Rhyddfrydol bron yn union mewn llawer o seddi ac yn y ganran genedlaethol. Mi fyddan nhw’n edrych ymlaen at etholiadau’r Cynulliad.
Democratiaid Rhyddfrydol – Ar wahân i Geredigion, trychineb llwyr.
5.23am: Fe fydd y Llywodraeth nesa’n wynebu cyfrifoldeb mawr o geisio cadw’r Deyrnas Unedig ynghyd, meddai’r arweinydd Llafur, Ed Miliband ar ol ennill ei sedd. Roedd Llafur yn yr Alban wedi cael eu boddi gan don o genedlaetholdeb, meddai. Ac roedden nhw wedi methu ag ennill y seddi oedd eu hangen yng Nghymru a Lloegr. “Mae wedi bod yn noson anodd a siomedig,” meddai.
5.21am: Ymddengys bod Sinn Feinn wedi colli dwy sedd. Mae hyn yn arwyddocaol am nad ydynt yn cymryd eu seddi yn San Steffan, ac felly bydd angen rhagor o ASau er mwyn sicrhau mwyafrif.
5.19am: Mae Charles Kennedy bellach wedi colli ei sedd i’r SNP.
5.18am: Ym Mhontypridd, mae Gareth Pennant wedi bod yn sgwrsio ag Owen Smith sydd wedi mynnu iddo bod negeseuon y Blaid Lafur wedi cyrraedd pobl er gwaethaf eu noson siomedig.
Ond fe gyfaddefodd yr AS Llafur bod y Ceidwadwyr a UKIP wedi llwyddo i gipio mwy o bleidleisiau oddi ar ei blaid ef nag yr oedd wedi disgwyl.
“Mae’r Torïaid wedi perfformio tipyn cryfach nag oeddwn i’n ei feddwl a beth wnaeth y polau awgrymu ar draws y wlad,” cyfaddefodd Owen Smith.
“Mae UKIP hefyd yn amlwg wedi siarad efo’r bobl gweithiol sydd wedi datgysylltu â gwleidyddiaeth.
“Mi wnaethon ni gynnig ateb i hynny ond mae UKIP yn amlwg hefyd wedi siarad efo’r bobl yma.”
5.11am: Canlyniad arbennig arall i’r Ceidwadwyr wrth iddynt gipio Gŵyr o afael Llafur – 27 pleidlais yn unig oedd ynddi! Mae Byron Davies, yr Aelod Seneddol newydd, yn Aelod Cynulliad ar hyn o bryd. Sedd Llafur ers 1910 – dros gan mlynedd.
5.09am: Mae yna sion bellach fod Ed Balls wedi colli ei sedd ym Morley ac Outwood. Fe fyddai colli eu ‘Canghellor’ yn ergyd drom ac yn gadael bwlch os bydd Ed Miliband yn rhoi’r gorau i’r arweinyddiaeth. Fe fyddai hefyd yn ei gwneud hi’n fwy tebyg mai ei wraig, Yvette Cooper, fydd yr arweinydd nesa.
5.08am: Tudalen flaen yr Independent yw: ‘Cameron rules divided kingdom’.
5.02am: Yn ôl y dyn arolygon, Peter Kellner, mae’r symudiad oddi wrth y Ceidwadwyr at Lafur yn 2%, ond mae Llafur wedi methu a chipio seddi lle’r oedd mwyafrif y Ceidwadwyr yn llai na hynny. Hynny’n cadarnhau tystiolaeth sylwebwyr oedd wedi dweud bod ofn yr SNP yn cael effaith fawr mewn seddi ymylol.
5.00am: Mae’r Ceidwadwyr wedi cadw sedd yn yr Alban, sef Dumfriesshire, Cydesdale & Tweeddale.
4.58am: Awgryma Lee Waters, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, na fydd Nick Clegg yn arbennig o falch iddo ail-ennill ei sedd.
4.51am: Wrth ennill yn Sheffield Hallam, fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod wedi bod yn noson “greulon” i’w blaid, gydag oblygiadau mawr i wledydd Prydain, i’r Democratiaid Rhyddfrydol ac i’w rol yn arweinydd. Mae hynny’n cael ei weld yn awgrym y bydd yn ymddiswyddo o fod yn arweinydd.
4.50am: Mae Vaughan Roderick yn rhoi stwr i Blaid Cymru am ofni colli Arfon. A wnaethon nhw wario gormod ar Arfon pan ddylen nhw fod wedi cwnolbwyntio ar Ynys Môn?
4.48am: Mae Iolo Cheung newydd fod yn sgwrsio â Simon Thomas o Blaid Cymru sydd wedi bod yn y stafell sbin yng Nghaerdydd.
Fe gyfaddefodd yr Aelod Cynulliad ei fod “wedi disgwyl” i’w blaid ennill sedd, a’i fod yn siomedig iawn o fod wedi methu cipio Ceredigion ar ôl ymdrech fawr, a “boddi yn ymyl y lan” yn Ynys Môn.
Ond fe fynnodd hefyd bod y ffaith eu bod nhw wedi cynyddu cyfran eu pleidlais mewn nifer o etholaethau eraill yn arwydd da ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
4.47am: Mae’r Blaid Lafur yn credu bod Ed Balls wedi colli ei sedd yn Morley and Outwood.
4.43am: Dim ond Bro Morgannwg a Gŵyr sydd ar ôl yng Nghymru. Mae yna ail ailgyfrif yng Ngŵyr, gyda’r awgrym bod y Blaid Geidwadol ar y blaen yno. Fe fydd y Ceidwadwyr yn ffyddiog o ddal eu gafael ar Fro Morgannwg.
4.39am: Dywed yr Athro Roger Scully ei fod bellach bron yn sicr yw daw UKIP yn drydydd yng Nghymru, o flaen Plaid Cymru.
4.36am: Mae’r Ceidwadwyr wedi dymchwel Vince Cable yn Twickenham.
4.35am: Mae pobol gwledydd Prydain wedi gwrthod y posibilrwydd o fynd yn ol at wleidyddiaeth y 70au a gwleidyddiaeth rhaniadau, meddai Boris Johnson sydd newydd gael ei ethol yn Uxbridge. Roedd y bobol wedi pleidleisio tros bolisi o synnwyr cyffredin economaidd.
4.34am: Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn awgrymu y bydd llai na 10 o Aelodau Seneddol ganddyn nhw’n weddill.
4.32am: Mae’r Ceidwadwyr bellach yn ennill seddi allweddol yn Lloegr, megis Southampton Itchen, yr oedden nhw methu ag ennill yn 2010.
4.30am: Dadansoddiad Dylan – Stori’r noson gyfan yng Ngogledd Caerdydd
Yr arwydd cliria o lwyddiant y Ceidwadwyr heno yw canlyniad Gogledd Caerdydd.
Trwy lwyddo i gynyddu’r mwyafrif, roedd yn dangos yn glir sut yr oedd Llafur trwy wledydd Prydain wedi methu â throi’r drol Geidwadol.
Gydag UKIP am unwaith yn cael eu gwasgu, roedd hi’n frwydr uniongyrchol rhwng y ddwy blaid fawr ac, er gwaetha’ holl ymdrechion Llafur yno, wnaethon nhw ddim ohoni, a cholli rhywfaint o’u pleidlais.
Mae bellach yn ymddangos y bydd Llafur Cymru’n gorffen gyda’r un faint o seddi ag oedd ganddi ar y dechrau … ar ol pum mlynedd o lywodraeth Geidwadol a oedd i fod yn amhoblogaidd iawn yng Nghymru.
Os na fydd pethau annisgwyl yn digwydd a Llafur rhwysut yn ffurfio llywodraeth glymblaid, fe fydd yna broblem cyfeiriad i’r Blaid Lafur yng Nghymru hefyd …
4.29am: Mae Douglas Carswell o UKIP wedi cipio Clacton. Efallai y bydd yn gofyn am gael ail-ymuno â’r Ceidwadwyr ar ôl heno.
4.23am: Cyfweliad sain gyda Jonathan Edwards wedi ei fuddugoliaeth ef yn nwyrain Caerfyrddin.
4.22am: Cyfweliad sain gyda Mark Williams wedi ei fuddugoliaeth yng Ngheredigion.
4.20am: Mae’r Athro Laura McAllister o Brifysgol Lerpwl wedi dweud bod perfformiad Plaid Cymru yn “fethiant gwael”. Doedden nhw ddim digon uchelgeisiol, meddai, wrth obeithio am gadw’u seddi a fawr mwy. O ystyried y sylw yr oedd yr arweinydd, Leanne Wood, wedi’i gael, roedd y canlyniadau yn “gyfle wedi ei golli”.
4.19am: Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cadw ei sedd ym Mhreseli Penfro gyda chynnydd yn ei fwyafrif.
4.16am: Dyw Llafur ddim yn gwneud llawer o gynnydd yn erbyn y Ceidwadwyr, ond maen nhw’n llwyddo yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n chwalu ym mhob cyfeiriad. Mae Simon Hughes wedi colli ei sedd yn Bermondsey & Old Southwark wedi 32 mlynedd yn AS.
4.13am: “Beth yw Llafur Brydeinig?” yw cwestiwn yr AC Llafur Leighton Andrews ar Twitter. “Mae angen i’r blaid adlewyrchu, nid cynnal gornest arweinyddol yn syth.”
4.09am: Mae’r Ceidwadwyr wedi dal gafael ar sedd Gogledd Caerdydd! Canlyniad anhygoel i’r blaid, wedi i bawb dybio yn weddol sicr y byddai Llafur yn ei chipio. Roedd Llafur wedi bod yn gweithio’n hynod o galed yma.
Ceidwadwyr – 21,709
Llafur – 19,572
4.08am: Mae Alex Salmond wedi ei ethol yn Gordon.
4.05am: Dadansoddiad Dylan – Y patrwm yn cynnal
*Canlyniad Ynys Môn fydd un o’r rhai mwya cymhleth i’w ddadansoddi – UKIP fel petaen nhw wedi cipio pleidleisiau oddi ar Lafur ond efallai hefyd wedi atal Plaid Cymru rhag cipio’r sedd … siom chwerw iddyn nhw o ychydig tros 200.
*Yn Delyn, mae’n ymddangos yn debycach fyth mai UKIP oedd y dylanwad mawr, yn atal y Ceidwadwyr rhag cau’r bwlch ar Lafur.
*Doedd dim syndod o gwbl fod Llafur wedi ennill Canol Caerdydd ond colled y Democratiaid Rhyddfrydol oedd hi mewn gwirionedd ac yn rhan o’r patrwm mwy cyffredinol.
Fel arall, mae gweddill y tueddiadau’n parhau – fe fydd Llafur yn falch o fuddugoliaethau ymgeiswyr newydd yn Nwyrain Abertawe ac Aberafon a Phlaid Cymru’r un modd yn Nwyfor Meirionnydd lle llwyddodd Liz Saville-Roberts i ddod o fewn 1,000 i gyfanswm Elfyn Llwyd.
Fe fydd Llafur yn falch iawn hefyd o ganlyniad Alyn a Glannau Dyfrdwy, gan wrthsefyll cynnydd bach i’r Ceidwadwyr.
Unwaith eto, fe gynyddodd UKIP ond ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol ac fe allen nhw ddisodli’r hen blaid yn y Cynulliad y flwyddyn nesa.
Fe fydd prawf mawr yng Ngogledd Caerdydd lle mae Llafur yn gobeithio cipio’r sedd oddi ar y Ceidwadwyr – o edrych ar y gweddill, fe allai’r Torï ei chadw.
4.00am: Ergyd drom i’r SNP wrth iddyn nhw fethu ag ennill bob un sedd yn yr Alban. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dal eu gafael ar Orkney a Shetland. 817 yn unig oedd mwyafrif Alistair Carmichael.
3.59am: Mae disgwyl y bydd y canlyniad yn sedd Nick Clegg, Sheffield Hallam, yn agos.
3.56am: Mae Simon Hart o’r Ceidwadwyr wedi llwyddo i gadw ei sedd o afael y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, gyda mwyafrif iach o 6,054.
3.55am: Mae’r SNP wedi llwyddo i dorri ‘swingometer’ y BBC gyda newid 39% yn eu pleidlais yn Glasgow North East.
3.52am: Faint mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei golli mewn blaendaliadau hyd yn hyn? £47,000.
3.48am: Mae yna ail-gyfrif yn Gŵyr, ble mae’r Ceidwadwyr yn cystadlu am sedd Llafur. Roedd disgwyl i Lafur gadw gafael ar y seddi ymylol rhain yn weddol gyfforddus.
3.40am: Mae Albert Owen Llafur wedi cadw Ynys Môn o drwch blewyn.
Llafur – 10,871
Plaid – 10,642.
UKIP – 5,121
Dems Rhydd – 751
Plaid Lafur Sosialaidd – 148
Ceidwadwyr – 7,393
3.40am: Mae’r Democrat Rhyddfrydol blaenllaw, Ed Davey, wedi colli ei sedd. Ef yw’r aelod cyntaf o’r cabinet i golli ei sedd ers 1997.
3.37am: Mae Jamie Thomas yn Ynys Môn yn awgrymu ei fod yn anhebygol y bydd ail-gyfrif llawn, ac y bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi heno.
3.29am: Mae sedd arall yng Nghymru wedi newid dwylo! Fel y disgwyl, mae Llafur wedi cipio canol Caerdydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, o 15,462 i 10,481.
3.28am: Mae cyn-ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr David Jones, wedi cadw ei sedd yng Ngorllewin Clwyd.
3.26am: Mae’r arweinydd Llafur yn yr Alban wedi llongyfarch yr SNP ar eu llwyddiant gan ddweud ei fod yn ennyd hanesyddol i’r blaid genedlaethol. Ond fe rybuddiodd hefyd fod y fath lwyddiant yn dwyn cyfrifoldebau hefyd ac na ddylen nhw gamgymryd y wlad am eu plaid. “Dyw ein baner na’n strydoedd erioed wedi bod yn eiddo i un blaid,” meddai. “O’m rhan i a’r Blaid Lafur, mae’r frwydr yn parhau.”
3.25am: Mae Stephen Kinnock, mab Neil Kinnock a gwr Prif Weinidog Denmarc, Helle Thorning-Schmidt, wedi ei ethol yn Aberafan.
3.21am: Mae’r cyfri yn dal i fynd ymlaen ar Ynys Môn, medd Jamie Thomas. Mae Plaid Cymru eisiau ail-wirio’r bwndeli unwaith eto, a hynny’n arafach.
Dywed Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru a’r ymgeisydd yn y sedd, ei fod yn hapus i weld bod pleidlais ei blaid yn cymharu’n dda gyda’u pleidlais yn ystod yr Etholiad Ewropeaidd.
3.20am: Dadansoddiad Dylan – Cymru lonydd
Dyma’r patrwm yng Nghymru hyd yn hyn …
Llafur yn gry’ yn eu cadarnleoedd ond yn colli tir fel arall ac yn methu â herio’r Ceidwadwyr yn eu seddi nhw. A cholli Dyffryn Clwyd yn ergyd ofnadwy iddyn nhw.
Y Ceidwadwyr yn cryfhau yn eu cadarnleoedd ac yn eu targedi.
Plaid Cymru – canlyniadau da yn eu seddi presennol, methu yn eu targedi ac ennill rhyw fymryn o ganran mewn llefydd eraill.
UKIP – yn cryfhau ymhobman ac yn ei gwneud hi’n fwy anodd i Blaid Cymru herio Llafur yn y Cymoedd.
Democratiaid Rhyddfrydol – ar wahan i’r bleidlais bersonol i Mark Williams yng Ngheredigion, chwalfa lwyr.
Y Gwyrddion – dim marc.
3.18am: Mae Plaid Cymru wedi cadw Dwyfor Meirionydd, fel y disgwyl. Elizabeth Saville Roberts wedi ei hethol yn AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru.
3.15am: Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd oddi ar Llafur o 237 o bleidleisiau. 13,760 i 13,523 o bleidleisiau.
3.11am: Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Jim Murphy, wedi colli ei sedd.
3.10am: Mae’r Athro Roger Scully yn awgrymu y daw UKIP yn drydydd yng Nghymru, gyda tua 13.5% o’r bleidlais, a Plaid Cymru yn bedwerydd gyda tua 12%.
3.05am: Dywed Jamie Thomas ar Ynys Môn y bydd rhai o’r pleidleisiau yn cael eu gwirio drachefn. Fe allai fod yna ail-gyfrif.
3.01am: Merthyr Tudful a Rhymni – un o dargedi plaid UKIP yng Nghymru. 6,106 o bleidleisiau iddynt yma, ond Llafur yn cadw o 17,619.
3.01am: Dadansoddiad Dylan – Stori dwy wlad
Mae’r gwahaniaeth rhwng yr Alban a Chymru yn drawiadol.
Yn yr Alban, mae yna chwyldro gwleidyddol yn digwydd, yng Nghymru dim ond cadarnhau pethau fel yr oedden nhw, heblaw am y pethau ymylol, cynnydd UKIP a chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae ASau’r Ceidwadwyr – gan gynnwys Guto Bebb a Glyn Davies – wedi cynyddu eu pleidlais a’r blaid wedi cipio Brycheiniog a Maesyfed yn llawer haws na’r disgwyl.
Yn ogystal â methiant Plaid Cymru i herio’n gry’ yn eu targedi, a methiant Llafur i wneud marc y tu allan i’w chadarnleoedd, mae’r ddwy blaid yn cryfhau eu gafael ar eu seddi eu hunain.
Mae buddugoliaeth yr SNP yn hen sedd Gordon Brown yn fwy trawiadol na’r un, gan mai’r cyn Brif Weinidog oedd yn cael y clod am achub yr Undeb adeg y Refferendwm.
Dim ond yn awr y mae pobol yn dechrau sylweddoli effaith buddugoliaeth yr SNP ar weddill y Deyrnas Unedig.
3.ooam: Y canlyniadau’n llifo nawr – Hywel Williams yn Arfon yn diolch i bawb am ei helpu yn ystod ei ymgyrch sydd wedi para tua dwy flynedd. Dweud bod yna lot o waith o’i flaen, yn enwedig efo’r etholiadau flwyddyn nesaf.
Yn Llanelli, Nia Griffith yn dweud ei bod hi’n fraint cael ei hailethol a’i bod yn edrych ymlaen i greu cymunedau gwell yn yr ardal. Diolch i bawb heno gan gynnwys y staff a’r heddlu.
Vaughan williams, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli, yn llongyfarch Nia Griffith a diolch i’w dîm. “Nid da lle gellir gwell” meddai. “Mae’r ddraig wedi rhuo a’r Cymry wedi gwrando. Ni fydd y frwydr byth yn marw.”
2.59am: Cynnydd o 3% ym mhleidlais Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, cwymp o 2% i Lafur.
2.58am: Mae rhai o gyn a darpar-ASau Llafur wedi dechrau mynegi eu hanfodlonrwydd gyda arweinyddiaeth Llafur. Dywed John Mann, sy’n ymgeisydd yn Bassetlaw, nad oedd yr arweinyddiaeth yn gwrando, a’u bod wedi eu rhybuddio’n aml y gallai hyn ddigwydd.
2.53am: Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio sedd Roger Williams, Brycheiniog a Sir Faesyfed. 16,435 o bleidleisiau i 11,351. Dyma’r sedd gyntaf yng Nghymru i newid dwylo. Cwymp mawr o -18% i’r Democratiaid Rhyddfrydol, 5% yn fwy i’r Ceidwadwyr.
2.50am: Mae Guto Bebb wedi cadw ei sedd yn Aberconwy. Roedd Llafur wedi gobeithio cipio’r sedd ar noson dda. Ymddengys nad yw’n noson dda i’r Blaid Lafur!
2.49am: Mae Albert Owen wedi dweud y gallai Plaid Cymru benderfynu a ydyn nhw eisiau ail-gyfri’n pleidleisiau ar Ynys Môn, medd Jamie Thomas. Tua 200 o bleidleisiau ynddi, gyda Llafur ar y blaen ar hyn o bryd.
2.47am: Mae Plaid Cymru wedi cadw Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Plaid – 15,140
Llafur – 9,541
2.46am: Mae Glyn Davies wedi cadw ei sedd yn Sir Drefaldwyn. Roedd awgrym y gallai y Democratiaid Rhyddfrydol fod wedi ei chipio.
2.46am: Mae cyn arweinydd yr SNP, Alex Salmond, newydd ddweud bod “llew Albanaidd” yn rhuo heno ac na fydd yr un llywodraeth yn gallu ei anwybyddu. Ond y nod o hyd, meddai, yw ceisio cael cynghrair flaengar i geisio atal y Ceidwadwyr.
2.45am: Tua 200 o bleidleisiau ynddi ar Ynys Môn, medd Jamie Thomas.
2.44am: Clip sain ar eich cyfer chi – ymateb Nia Grifith i bleidlais Llanelli.
2.43am: Dywed yr Athro Roger Scully bod canran yr SNP o’r bleidlais wedi cynnyddu 29.5% yn y 11 sedd cyntaf yn yr Alban.
2.38am: Dadansoddiad Dylan – Cadw un … ond methu ag ennill dau darged
Fe fydd Plaid Cymru’n siomedig iawn am eu canlyniadau yng Ngheredigion a Llanelli ond wrth eu bodd yn Arfon.
Ond mae sedd Llanelli, ac i raddau llai Ceredigion, yn dangos peth o effaith UKIP yn rhwystro’r Blaid rhag codi stem.
Yng Ngheredigion hefyd, roedd y bleidlais wrthwynebus wedi ei rhannu a Phlaid Cymru wedi methu â gwneud yr hyn wnaethon nhw yn nyddiau Cynog Dafis a chreu clymblaid.
Y canlyniad yn Llanelli yw’r gorau eto i Lafur, gyda Nia Griffith yn cynyddu ei mwyafrif.
Ond, roedd y fuddugoliaeth i Hywel Williams yn Arfon yn un fawr ac, yn yr achos yma, UKIP wedi cael eu gwasgu wrth i bleidleisiau gwrth-Llafur fynd i Blaid Cymru.
Yn yr Alban, mae’r canlyniadau anhygoel wedi dechrau gydag un o sêr y Blaid Lafur, Douglas Alexander yn colli ei sedd, a dwy etholaeth yn dangos symudiad o 33% a 34% oddi wrth Lafur at yr SNP. Dyna’r math o symudiadau sydd mewn is-etholiadau hanesyddol, yn hytrach nag etholiadau cyffredinol.
2.32am: Yng Ngheredigion, roedd cwymp o 14% ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a Plaid Cymru wedi colli 1% UKIP wedi ennill 8%.
2.28am: Cynnydd o 8% ym mhleidlais Plaid Cymru yn Arfon. Dim newid yn y bleidlais i Lafur.
2.27am: Dim ond yn fras y byddaf yn crybwyll bob canlyniad yng Nghymru yma – mae rhestr llawn y canlyniadau i’w canfod yma:
Y canlyniadau yng Nghymru – Etholiad Cyffredinol 2015
2.24am: Mae’r SNP wedi ennill Paisley and Renfrewshire South. Douglas Alexander wedi colli ei sedd. Mhairi Black yn fyfyrwraig 20 oed. Buddugoliaeth anferth – gogwydd o 27% o Lafur i’r SNP.
Roedd gan Douglas Alexander fwyafrif o 16,614. Collodd o 5,684. Ef oedd cydlynydd ymgyrch etholiadol Llafur.
2.20am: Mae Plaid Cymru a Llafur bron yn gyfartal ar Ynys Môn, medd Jamie Thomas.
Y Ceidwadwyr yn drydydd cyfforddus, UKIP yn bedwerydd, a’r ddau arall ymhell ar ei hol hi.
2.19am: Mae Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, yn dal i ddweud ei bod eisiau gweithio gyda Llafur i gadw’r Ceidwadwyr allan – hyd yn oed os yw’r arolwg wrth adael yn gywir.
2.15am: Plaid yn cadw Arfon, gan gynyddu eu mwyafrif.
Llafur – 8,122
Plaid – 11,790
2.14am: Llafur yn cadw Llanelli yn gyfforddus:
Llafur – 15,948
Plaid – 8,853
Y canlyniadau yng Nghymru – Etholiad Cyffredinol 2015
2.13am: Dim ond 500 o bleidleisiau rhwng Plaid a Llafur ar Ynys Mon, meddai Jamie Thomas.
2.08am: Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cadw Ceredigion.
Plaid – 10,347
Democratiaid Rhyddfrydol – 13,414
Ceidwadwyr – 4,123
Llafur – 3,615
UKIP – 3,829
Gwyrdd – 2,088
2.06am: Mae Chris Davies, ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mrycheiniog a Maesyfed, yn dweud ei bod am fod yn fore da yn yr etholaeth – iddo ef, nid y Democrat Rhyddfrydol, Roger Williams.
2.05am: Mae’n debyg mai ymateb David Cameron i’r ‘exit poll’ oedd “Hell yes.” Bydd Ed Miliband yn brifo’n awr.
2.02am: Mae canlyniadau Plaid Cymru ar i fyny yn yr etholaethau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma – ond ddim digon i ennill Ynys Môn a Ceredigion, ymddengys.
2.01am: Mae’n debyg bod Jim Murphy wedi colli East Renfrewshire o thua 5,000 o bleidleisiau i Kirsten Oswald o’r SNP.
2.00am: Mae’n agos yng Ngheredigion, yn ôl Owain Hughes, ond mae ymgeisydd y Democaratiaid Rhyddfrydol Mark Williams wedi dweud wrtho ei fod yn “hyderus”, er yn siomedig gyda pherfformiad ei blaid yn genedlaethol.
Mae Huw Thomas hefyd wedi ymateb i ganlyniad Wrecsam, gan ddweud: “Falch iawn fod Llafur wedi cadw Wrecsam. Syndod gweld nifer o bobl yn pleidleisio UKIP yn yr ardal yn mynd i fyny, ond hynny’n dangos anhapusrwydd sydd gan bobl yn y system sydd gennym y nawr.”
Yn Llanelli, mae Scott Jones o blaid TUSC wedi dweud wrth Lewys Theo Evans bod “Llafur ddim yn ffit i alw eu hunan yn ‘Lafur’ dim mwy.”
Dywedodd bod pobl bellach yn pleidleisio dros y blaid wrth “ddal eu trwynau”, a bod ei blaid ef eisiau gweld “sosialaeth bara menyn”.
“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn ffantastig ond dydyn nhw ddim o reidrwydd am gyfrif fel pleidleisiau,” meddai.
Yn Llandudno, gyda llaw, mae’r Ceidwadwyr Guto Bebb a David Jones wedi cyrraedd canolfan gyfrif eu hetholaethau nhw.
1.57am: Dadansoddiad Dylan – Y straeon yn dod yn glir
De Clwyd bron yn union fel Wrecsam, ond fod Llafur wedi cadw’u cyfran yn well, a Susan Elan Jones, sy’n gefnogol i’r Gymraeg, yn ennill.
Er y bydd Llafur yn falch, fe fydden nhw wedi disgwyl ennill pleidleisiau ar ddiwedd pum mlynedd o galedi o dan lywodraeth Geidwadol.
Y stori arall – fod UKIP wedi disodli’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan awgrymu eto y gallan nhw eu disodli hefyd yn rhestrau etholiad y Cynulliad.
A draw yn Nuneaton, y Ceidwadwyr yn cryfhau eu gafael ar sedd ymylol, Dem Rhydd yn diflannu ac UKIP yn eu lle … tuedd sy’n datblygu’n gry’.
1.56am: Mae Iolo Cheung wedi bod yn sgwrsio â Felix Aubel yn y stafell sbin, ac roedd y Ceidwadwr yn falch iawn o ganlyniad “arbennig o dda” ei blaid yn Wrecsam.
Fe ddaeth y Ceidwadwyr yn ail agos i Lafur yn yr etholaeth, gyda UKIP hefyd yn denu cyfran sylweddol o’r bleidlais.
Yn ôl Felix Aubel, mae UKIP wedi llwyddo i apelio i bobl ddosbarth gweithiol sydd ar y chwith yn economaidd ond ar y dde yn gymdeithasol, a fyddai o bosib wedi pleidleisio Llafur yn y gorffennol.
Fe allai rhywbeth tebyg ddigwydd yn Alyn a Glannay Dyfrdwy, meddai.
1.55am: Wel dyna ni, ymddengos bod yr ‘exit poll’ yn gywir – mae Llafur wedi methu a chipio Nuneaton, un o’r seddi oedd angen iddyn nhw eu hennill er mwyn sicrhau canlyniad da heno. Roedd 4% yn fwy i’r Ceidwadwyr a -2% i Lafur.
Llafur wedi colli pleidleisiau i UKIP, a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi troi at y Ceidwadwyr?
1.51am: Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn “siomedig” ar noson wael i’w blaid, meddai llefarydd ar ei ran.
1.46am: Llafur yn cadw sedd arall yn Ne Clwyd.
Cafodd Mabon ap Gwynfor 3,620 pleidlais i Blaid Cymru – cynnydd o 2% ar 2010. Cynnydd mawr arall i UKIP o 13%, 819 i 5,480. Cwymp -13% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
1.44am: Mae’r sylwebydd gwleidyddol Andrew Marr yn awgrymu mai David Cameron fydd Prif Weinidog ola’r Deyrnas Unedig ac y bydd yn chwilio am syniad mawr i gadw’r Undeb ynghyd. Ar y llaw arall, os yw’r pol wrth-adael yn iawn, fe fydd yn arwr o fewn ei blaid a’i wrthwynebwyr Ewro sgeptig yn colli grym.
1.41am: Sôn bod Vince Cable a David Laws y Democratiaid Rhyddfrydol mewn peryg.
1.39am: Bydd modd gweld yr holl ganlyniadau yng Nghymru wrth iddynt gyrraedd ar y dudalen yma:
Y canlyniadau yng Nghymru – Etholiad Cyffredinol 2015
Maent yn nhrefn y wyddor – felly bydd rhaid gwibio at y gwaelod er mwyn gweld y canlyniad cyntaf, sef Wrecsam!
1.34am: Dadansoddiad Dylan – Y sedd gynta’ o Gymru
Doedd yna ddim sioc yn y canlyniad cynta’ yng Nghymru, heblaw fod y Ceidwadwyr wedi ennill ychydig o dir pan fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw golli.
Yr elfen arall yw’r duedd gyffredinol, gydag UKIP yn disodli’r Democratiaid Rhyddfrydol yn brif blaid brotest.
Fe fydd Plaid Cymru ychydig yn siomedig na lwyddon nhw i ennill rhagor gydag ymgeisydd, Carrie Harper, sy’n ymgyrchydd amlwg.
Mae’r symudiad tuag at y Ceidwadwyr oddi wrth Lafur yn dechrau codi cwestiynau am ambell sedd arall, De Clwyd er enghraifft.
Yn rhai o seddi Llundain – Battersea, Putney ac yn y blaen – mae yna batrwm yn datblygu. Mae’r ddwy blaid fawr yn agos at ble’r oedden nhw yn 2010, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu ond dyw UKIP ddim yn manteisio.
1.33am: Y diweddaraf o Geredigion – Mike Parker yn “siomedig” efo’r canlyniadau ar hyn o bryd. Staciau o bapurau yn dechrau hel ym mocs Mark Williams, efo Mike Parker yn dilyn. Papurau UKIP a’r Ceidwadwyr yn hafal, a phapurau’r Blaid Werdd a Llafur yn isel iawn. Dal llawer o bapurau i’w cyfri, meddai Owain Hughes.
Yn bellach i’r de, y Ceidwadwyr yn awgrymu eu bod nhw’n hyderus o gymryd pleidleisiau oddi ar Blaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Yn ôl Lewys Theo Evans mae’r spotters yn dweud ei bod hi’n agos rhwng y ddwy blaid yn yr etholaeth, gyda Plaid ychydig ar y blaen, ond mae ymgeisydd y Ceidwadwyr Matthew Paul wedi rhybuddio rhag cymryd y pôl wrth adael rhy o ddifrif.
1.32am: Mae Llafur ar y blaen ar Ynys Môn, meddai Jamie Thomas. Ond dywed Albert Owen, ymgeisydd y Blaid Lafur, wrtho nad oedd am gynnig sylw – “fe gawn weld mewn awr”. Mae disgwyl cyhoeddiad tua 2am.
1.30am: Cwymp mawr i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Wrecsam o 20% o’r bleidlais, lle’r oedden nhw’n ail yn 2010. Roedd cynnydd o 13% i UKIP.
1.29am: Dywed Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, wrth Jamie Thomas ei fod yn anelu i orffen yn ail ar Ynys Môn, ond y bydd yn hapus i orffen yn drydydd.
Ar y cyfan roedd yn hapus gyda’r ymgyrch ar draws Cymru ond bod y cyfryngau wedi bod yn eithaf negyddol.
1.26am: Dywed yr Athro John Curtice ein bod ni ar ein ffordd at Lywodreath Geidwadwol heb unrhyw ASau o’r Alban. Beth fydd arwyddocad hynny i’r Deyrnas Unedig?
1.24am: Mae Llafur wedi cadw sedd Wrecsam. Dim syndod yno!
1.23am: Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Renfrewshire East yn dweud bod arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Jim Murphy, wedi colli ei sedd.
1.22am: Mae’r cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock, newydd ddweud bod pobol wedi twyllo eu hunain i gredu’r myth bod y Ceidwadwyr yn gallu trin yr economi’n ddoeth.
Er eu bod nhw’n gwybod y dylen nhw wneud fel arall, roedden nhw’n pleidleisio yn y pen draw tros y Ceidwadwyr yn y gred eu bod nhw’n gwneud hynny er eu lles eu hunain.
Ond y rhai a fyddai’n diodde’ go iawn oedd y rhai diniwed.
1.23am: Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wedi dweud wrth Jamie Thomas ei fod yn hapus iawn gyda canlyniad ei blaid ar Ynys Môn, lle mae’n ymgeisydd.
1.20am: Mae’n debyg bod cynnwrf mawr ym Mlaenau Gwent. Na, dyw Llafur ddim mewn peryg o golli’r sedd… mae’r goleuadau wedi diffodd.
1.18am: Dywed Neil Kinnock y bydd y canlyniad yn un siomedig, pe bai’n parhau fel hyn. O leiaf y bydd y sylwebwyr yn trafod 2015 yn hytrach na 1992…
1.16am: Trwynau Llafur ar y blaen ar Ynys Môn.
1.15am: Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn pryderu ei bod hi’n agos iawn yng Ngogledd Caerdydd. Dyma sedd darged rhif 4 y Blaid Lafur. Os nad oes modd iddyn nhw ennill hon, ni fyddwn nhw wedi gwneud ryw lawer o gynnydd ar 2010.
1.12am: Dim ond ychydig gannoedd o bleidleisiau sydd ynddi ar Ynys Môn, medd Plaid Cymru.
1.10am: George Galloway wedi colli yn Bradford West.
1.09am: Dadansoddiad Dylan – Chwalfa’r Dem Rhydd … a’r effaith
Yr un patrwm sy’n gwbl amlwg mor gynnar â hyn ydy fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael noson drychinebus a’u pleidlais wedi chwalu ymhobman hyd yn hyn.
Mewn rhai seddi, mae’n ymddangos bod UKIP yn eu disodli’n blaid brotest tra bod y ddwy blaid fwya’n aros yn weddol agos at ble’r oedden nhw.
Yr unig obaith i’r Dem Rhydd yw cadw ambell sedd yn eu cadarnleoedd daearyddol.
Ond mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, wedi cydnabod bod pôl wrth-adael y darlledwyr yn “anghyfforddus” o agos ati.
Ond, meddai, oherwydd chwalfa’r Dem Rhydd a’r “tsunami” SNP yn yr Alban, fe fydd hi’n fwy i’r Ceidwadwyr gael eu ffordd – heb y Dem Rhydd fydd ganddyn nhw ddim mwyafrif i weithio gydag ef.
1.08am: “Mae’r noson wedi dechrau,” meddai Henrietta Hensher, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion, wrth i’w phlaid gipio Swindon North.
64.4% wedi pleidleisio ym Mhontypridd, a 66.35% wedi pleidleisio yn Aberconwy.
1.07am: Mae Jamie Thomas wedi bod yn trafod gyda ymgeisydd y Ceidwadwyr, Michelle Willis. Mae’n dweud ei bod hi’n arbennig o hapus gyda’r canlyniad tebygol ar draws y Deyrnas Unedig, er ei bod yn amau a ydi’r ‘exit poll’ yn hollol gywir.
Mae’n disgwyl y bydd y Ceidwadwyr yn gorffen yn y trydydd safle ar yr ynys.
1.04am: Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gadw Ceredigion gyda mwyafrif o tua 1,800-1,900. Roeddwn i wedi dyfalu hynny ddiwedd mis Marwth – ond dwn i ddim a yw fy nadleuon yn dal dŵr!
1.00am: Mae sawl ffynhonell yn awgrymu bod Nigel Farage wedi ei drechu yn Thanet South. Cawn weld.
12.59am: Ym Mhontypridd, mae Gareth Pennant yn dweud bod y bobl sydd yn cyfrif wedi cael saib o bron i awr, gan fwynhau ychydig o frechdanau, creision a phaneidiau.
Dydyn nhw heb ddechrau cyfrif y pleidleisiau post eto, sydd o bosib tua chwarter yr holl bleidlais, ac mae disgwyl i Owen Smith gyrraedd o fewn hanner awr.
Yn Llanelli, mae asiant People First wedi dweu wrth Lewys Theo Evans mai ‘trial run’ ar gyfer etholiadau’r Cynulliad oedd y penderfyniad i sefyll eleni.
Yng Ngheredigion, ymgeisydd y Blaid Werdd, Daniel Thompson, wedi dweud wrth Owain Hughes ei fod yn disgwyl “gwneud cynnydd” o’r etholiad diwethaf. Ai dyna’r rheswm mae Plaid Cymru yn llai hyderus nawr nag oedden nhw?
Gyda llaw, 69.16% sydd wedi pleidleisio yng Ngheredigion.
12.55am: Dywed ymgeisydd Llafur, Albert Owen wrth Jamie Thomas ar Ynys Môn nad oes unrhyw un yn gwybod pwy fydd yn ennill.
Mae Albert Owen wedi awgrymu ar S4C mai UKIP sydd wedi cymryd pleidleisiau Llafur, nid Plaid Cymru.
Dywed ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol wrth Jamie Thomas y byddai yn fuddugoliaeth cyrraedd 5% o’r bleidlais.
“Dydw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi pleidleisio i fi ond hoffwn i ddiolch iddyn nhw,” meddai. “Mae wedi bod yn brofiad diddorol i mi. Roedden ni eisiau sicrhau rhagor o ddylanwad ar yr ynys ac rwy’n gobwiethio ein bod ni wedi cyflawni hynny, ond cawn weld.”
12.51am: 69.16% wedi pleidleisio yng Ngheredigion. Disgwyl canlyniad gweddol agos, ond ddim digon agos i Blaid Cymru.
12.47am: Mae’r Ceidwadwyr yn ffyddiog ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Dyma sedd allweddol yr oeddynt wedi gobeithio ei gipio o ddwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y Prif Weinidog wedi ymweld â’r sedd ddoe.
12.46am: Dadansoddiad Dylan – Y naill ffordd neu’r llall: trwbwl i’r Undeb
Os ydi’r naill arolwg wrth-adael neu’r llall yn agos ati, mae’n ymddangos y bydd rhagor o straen ar yr Undeb.
Mae un y darlledwyr yn awgrymu y byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill o fwyafrif mawr yn Lloegr ond eto’n cael trafferth i lywodraethu – fe fyddai angen cefnogaeth y DUP o Ogledd Iwerddon arnyn nhw.
Os yw un YouGov yn iawn, fe fyddai gan y Ceidwadwyr unwaith eto fwyafrif yn Lloegr ond, os na fydden nhw’n gallu taro bargen gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a chael cefnogaeth y DUP, fe fyddai Llafur yn gallu llywodraethu gyda chefnogaeth yr SNP.
Fydd EVEL – pleidleisiau’r Saeson tros ddeddfau’r Saeson – ddim ynddi!
12.39am: Mae ein gohebydd Jamie Thomas wedi bod yn siarad efo John Rowlands, ymgeisydd Plaid Cymru, yn Ynys Môn. Dywedodd nad oedd yn gwybod o le fydd y bedwaredd sedd, fel y mae’r ‘exit poll’ wedi ei awgrymu, yn dod:
“Sgenai’m syniad pa sedd arall mae’r polau yn meddwl ydan ni wedi ei hennill, ond mae’n edrych yn debyg ein bod ni am gadw’r seddi sydd gennym ni.
“Roeddwn i wastad yn agored ei fod yn annodd i ennill seddi eraill ond mae’n agos fan hyn ond mae’n rhaid i ni aros rwan am y canlyniad.
“Mae’n eithaf amlwg bod y ras am y sedd yma yn agos iawn a mae o di bod yn bwysig i ni bwysleisio beth yr ydym ni’n sefyll amdano o ran bod yn erbyn y toriadau.
“Pwy bynnag sydd yn ennill yr etholiad yma ar yr ynys, mae rhaid cwffio dros yr ynys i gael llais yn Llundain a mynd a neges pobl yr ynys, a Cymru yn gyfan gwbl, i’r bobl yn Llundain.”
12.37am: Awgrym erbyn hyn y gallai Alistair Carmichael golli ei sedd yn Orkney & Shetland. Byddai hynny’n ganlyniad arbennig i’r SNP.
12.34am: Y newyddion o Arfon ydi bod Plaid Cymru wedi ennill y sedd mae’n debyg – y cynghorydd Llafur Sion Jones wedi cyfaddef wrth Catrin Williams mai Hywel Williams sydd yn debygol o’i chipio hi, nid ymgeisydd ei blaid ef Alun Pugh.
Dywedodd hefyd ei bod hi’n noson siomedig i’w blaid nid yn unig yn Arfon, ond ar draws Prydain, yn enwedig ar ôl gweld y pôl wrth adael.
Roedd Plaid Cymru’n dawel hyderus, meddai Catrin Williams, gan ddweud eu bod nhw’n credu bod pethau’n edrych yn bositif yn eu hardaloedd gwan ond ddim eisiau dweud gormod eto.
Dywedodd yr ymgeisydd UKIP Simon Wall ei fod hefyd yn credu fod Plaid Cymru wedi ennill, ond ei fod yn gobeithio cipio’r trydydd safle.
Ac yn ôl yr ymgeisydd Ceidwadol Anwen Barry mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn yr etholiad yma, gyda phobl Arfon yn poeni am yr SNP ac effaith fformiwla Barnett – roedd hi yn amlwg yn hapus iawn â’r pôl wrth adael.
12.33am: Mae ffynhonell o’r Blaid Lafur wedi dweud wrth bapur newydd cenedlaetholgar y National eu bod nhw yn disgwyl colli bob un o’u seddi yn yr Alban.
12.31am: Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r farn bod Alex Salmond wedi eu trechu yn Gordon.
12.28am: 66.51% wedi pleidleisio yn Arfon. 63.3% yn 2020.
12.26am: Sion Jones, ymgeisydd Llafur yn Arfon yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, yn dweud eu bod nhw wedi methu a chipio Arfon.
12.22am: Yng Ngheredigion, mae’n werth cofio bod Mark Williams wedi sefyll tair gwaith cyn cael ei ethol, gan gau’r bwlch bob tro. All neb ddadlau nad yw wedi gweithio’n galed am ei bleidlais personnol…
12.20am: Wel, fe ddywedon ni’n gynharach bod ymgeiswyr UKIP mewn hwyliau reit dda ar hyn o bryd.
Mae’n ymddangos fod eu hymgeisydd nhw yng Ngheredigion, Gethin James, hyd yn oed yn fwy hyderus nawr nag yr oedd yn gynharach. Fe ddywedodd wrth ein gohebydd Owain Hughes ei fod yn disgwyl i’w blaid ennill sedd neu ddwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Cawn weld am hynny.
Fel arall, mae disgwyl i Mike Parker gyrraedd y cyfrif yn Aberaeon am 1.00 o’r gloch y bore, ond dim arwydd o Mark Williams eto.
12.17am: Ymddengys y bydd Plaid Cymru yn aros yn ei hunfan felly. Cadw Arfon (efallai) a Dwyrain Caerfyrddin, methu yng Ngheredigion a Llanelli. Dim ond Ynys Môn sydd yn y fantol…
12.16am: Awgrym gan y blogiwr Cymraeg o fri, Cai Larsen, y bydd Plaid yn cadw Arfon yn “weddol hawdd”.
12.14am: Mae’n ymddangos yn debygol bod Llafur wedi cadw sedd Llanelli.
12.13am: Mae ein gohebydd yn Ynys Môn, Jamie Thomas, yn dweud ei bod hi’n dynn rhwng Plaid a Llafur yno. Pethau’n edrych yn wael iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond yn agos iawn rhwng UKIP a’r Ceidwadwyr.
12.09am: Mae Plaid yn credu eu bod nhw wedi llwyddo i gadw Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yng ngwyneb ymgyrch brwd gan y Blaid Lafur.
12.08am: Mae Gogledd Caerdydd yn agos, meddai’r Ceidwadwyr, ac maent yn weddol hyderus o gipio Brycheiniog a Sir Faesyfed.
12.05am: Mae’n debyg bod Danny Alexander wedi cyfaddef ei fod wedi colli yn Inverness. Dyna ganlyniad pump awr yn gynt na’r disgwyl.
12.03am: Os yw Ceredigion yn llithro o’u gafael, a cael a chael ar Ynys Môn, o le mae y 4 sedd yr oedd yr ‘exit poll’ wedi ei addo i Blaid Cymru yn mynd i ddod?
Mae Elin Jones ar S4C yn dweud mai “lleihau mwyafrif” y Democratiaid Rhyddfrydol yw y nod yng Ngheredigion erbyn hyn.
12.00am: Awgrymiadau bod George Galloway wedi colli ei sedd yn Bradford West.
11.55pm: Rhagor o glecs o’n gohebwyr ni yn y cyfrifon.
Cefnogwyr Plaid Cymru ddim yn edrych yn rhy hyderus yng Ngheredigion, yn ôl ein gohebydd ni Owain Hughes – y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP yn llawer hapusach yr olwg.
Ond mae bocsys pleidleisiau Llanbed newydd gael ei agor, a’r rheiny’n edrych yn well i Blaid Cymru mae’n debyg.
Dydi ymgeisydd Llafur Ceredigion ddim mewn hwyliau gwych chwaith, mae’n debyg – Huw Thomas yn dweud ei bod hi’n “sioc gweld gymaint o pobl yn yr ardaloedd gwledig yn pleidleisio UKIP, yn enwedig oherwydd mae’r ardaloedd yma yn ddibynnu ar pres Ewrop.”
Ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd mewn picl yn Aberconwy, yn ôl Iwan Jones, gyda thipyn o siarad yn mynd ymlaen ymysg y tîm a’r cyfrif ddim yn edrych yn galonogol o gwbl iddyn nhw.
Ac mae ymgeisydd y Gwyrddion yn Llanelli, Guy Smith, wedi dweud wrth Lewys Theo Evans bod angen clymblaid fyddai’n arwain at ddiwygio’r system etholiadol.
Gydag ychydig o bwysau fe allai Llafur ddechrau cynrychioli’r bobl eto, meddai, gan ddweud ei fod wedi siarad a llawer yn Llanelli “sydd erioed wedi pleidleisio o’r blaen ond yn pleidleisio Gwyrdd eleni”.
11.53pm: Mae 49,939 wedi pleidleisio yn Ynys Môn – 70.08%. Roedd 65% wedi pleidleisio yn y canolfannau pleidleisio, a 86.7% drwy’r post, meddai ein gohebydd Jamie Thomas yno. Tua 64% oedd nifer y pleidleiswyr y tro diwethaf.
11.52pm: Mae yna adroddiadau bod ffynhonell uchel yn y Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu bod y Democrat Rhyddfrydol amlwg, Danny Alexander, wedi colli ei sedd. Mae hynny’n ymddangos braidd yn rhyfedd o ystyried nad oes disgwyl canlyniad yn Inverness nes 5am.
11.49pm: Tra’n bod ni’n aros am ragor o ganlyniadau, draw yn y stafell sbin yng Nghaerdydd mae Iolo Cheung wedi bod yn sgwrsio â’r sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.
Dydi o ddim yn disgwyl gweld gwahaniaeth mawr rhwng y pôl wrth adael a’r canlyniad terfynol, gan awgrymu bod pobl wedi newid eu meddyliau heddiw i bob pwrpas.
“Mae’r exit polls wedi bod yn reit agos ati yn y gorffennol, ac mae maint y sampl y tro hwn yn awgrymu na fyddan nhw’n bell ohoni.
“Mae hynny’n awgrymu bod rhywbeth mawr wedi digwydd heddiw, achos cyn hyn roedd y polau’n dangos bod y momentwm gyda’r Blaid Lafur.
“Rydan ni’n gwybod am y Torïaid ‘swil’ yma, ac mae’n edrych fel bod ‘na newid munud olaf wedi bod.
“Ac mae’n awgrymu hefyd bod y troops ar y ddaear oedd gan Llafur yn y seddi ymylol yna ddim wedi llwyddo i gael y bleidlais allan.”
11.48pm: Fe fydd yn dalcen caled i Blaid Cymru ennill Ceredigion, meddai ffynhonell o fewn y blaid, ond mae disgwyl iddynt dorri mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol yn sylweddol.
11.45pm: Mae Plaid Cymru’n hyderus yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, gan awgrymu eu bod nhw wedi gwneud yn well na’r disgwyl.
11.44pm: Mae pethau’n edrych yn ddu i Lafur yn Glasgow, a mae peryg y bydd Jim Murphy, arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, yn colli ei sedd yn East Renfrewshire, yn ôl ffynonellau o fewn y Blaid Lafur.
11.40pm: Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hyderus yng Ngheredigion. Mae awgrym serch hynny bod UKIP yn 3ydd. Chwarter y blychau pleidleisio sydd wedi eu cyfri hyd yma.
11.39pm: “Mae Dicw yma!” – Trydarian cyffrous Vaughan Roderick. Yn ôl Dewi Llwyd ar S4C mae’r gwylwyr wedi bod yn cwyno am absenoldeb yr Athro Richard Wyn Jones. Mae’r ffrae e-bost y datgelodd Golwg 360 yn cael sylw ar hyn o bryd.
11.35pm: Mae PA yn adrodd ei bod hi’n rhy agos i ddarogan canlyniad ar Ynys Môn. Mae ein gohebydd Jamie Thomas yno’n casglu barn yr ymgeiswyr. Dywed ef bod ymgeiswyr y Ceidwadwyr, UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn trafod yn frwd gyda’i gilydd.
11.32pm: Mae Gareth Pennant wedi bod yn casglu clecs o Bontypridd, ac yn ôl un ffynhonnell o’r Blaid Lafur “does dim amheuaeth y bydd UKIP yn gorffen yn ail” yn yr etholaeth, sydd ar hyn o bryd yn nwylo Llafur.
Roedd UKIP yn bumed ym Mhontypridd yn etholiad cyffredinol 2010, ond fe ddaethon nhw’n ail yn Rhondda yn etholiadau Ewrop llynedd, ac mae’n edrych fel bod eu pleidlais nhw yno wedi aros yn gadarn.
11.27: Mae’n debyg mai tua 1am y cawn ni wybod pa mor agos ati oedd yr ‘exit poll’. Os yw Llafur yn methu a chipio seddi megis Nuneaton oddi ar y Ceidwadwyr fe fydd hi’n noson wael iddyn nhw.
11.26pm: Mae’r Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd yn awgrymu y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol golli 35 o’u 40 blaendal yng Nghymru.
11.24pm: Mae bwcis PaddyPower wedi penderfynu talu’r rheini oedd wedi darogan y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill y mwyaf o seddi.
11.23pm: Mae UKIP i’w weld mewn hwyliau da ar ôl y canlyniad cyntaf yna o Sunderland, ble ddaethon nhw’n ail.
Dywedodd Gethin James, ymgeisydd y Blaid yng Ngheredigion, fod y canlyniad yn “dangos bod y blaid yn denu cefnogaeth a phobl, sydd falle ddim yn cefnogi UKIP yn agored ond yn cefnogi’r blaid yn y blwch pleidleisio”.
A draw yn Aberconwy dywedodd yr ymgeisydd UKIP Andrew Haigh ei fod yn ffyddiog o gipio pleidleisiau gan y Ceidwadwyr a Llafur – gan ychwanegu ei fod yn difaru peidio canfasio digon yn ystod yr etholiad!
11.22pm: Mae Dafydd Elfryn wedi bod yn mapio etholiad 2010, gan ddangos canrannau y gwahanol bleidiau yng Nghymru. Mae ei fap rhyngweithiol yn arbennig o ddiddorol – a’r cyfan yn Gymraeg.
11.19pm: Dywed Robert Peston, golygydd economaidd y BBC, bod canlyniad Sunderland Central fel petai’n cyd-fynd a’r ‘pôl cyn gadael’. Rhaid peidio a dod i ormod o ganlyniadau ar sail ychydig seddi wrth gwrs.
11.18pm: Dywed sylwebydd dylanwadol yr Independent, John Rentoul, ei fod yn disgwyl y bydd Ed Miliband wedi rhoi’r gorau i fod yn arweinydd y Blaid Lafur erbyn bore fory.
11.17pm: Mae Llafur wedi dal eu gafael ar Sunderland Central, gyda’r Ceidwadwyr yn ail ac UKIP yn drydydd.
11.15pm: Mae’r AC Rhun ap Iorwerth yn dweud wrth Jamie Thomas ar Ynys Môn eu bod nhw wedi gwneud yn dda mewn rhai rhannau o’r ynys, ond efallai ddim cystal mewn rhannau eraill.
Mae John Rowlands o Blaid Cymru ac Albert Owen o’r Blaid Lafur bellach wedi cyrraedd.
11.12pm: Mae’n debyg fod gan y Sun eisoes dudalen flaen bore fory wedi ei baratoi. “Swinging the Blues” yw’r pennawd.
11.06pm: Dywed Rhun ap Iorwerth wrth Jamie Thomas yn Ynys Môn ei fod yn rhy gynnar i ddechrau darogan y canlyniad eto, ond ei fod yn “gobeithio y bydd neges gadarnhaol Plaid Cymru ar draws y wlad yn ennill y dydd i ni”.
Dywedodd yn ogystal eu bod nhw’n barod i gydweithio gyda partneriaid blaengar sy’n fodlon mynd i’r afael ag anghenion Cymru.
11.05pm: Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi wfftio’r ‘pôl wrth adael’ gan ddweud ei fod yn mynd yn groes i’w disgwyliadau nhw ar sail siarad gyda pobl yng Nghymru – rhaid disgwyl am y canlyniad, meddai.
Mae llefarwyr ar ran y Blaid Lafur yn dadlau nad yw’r pôl yn gywir.
11.03pm: Dadansoddiad Dylan – Y canlyniad cynta’.
Doedd dim syndod wrth i Lafur ennill yn Houghton a Sunderland South a chynyddu eu mwyafrif, ond y stori fawr ydy UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol – y naill yn ennill 7,000 o bleidleisiau a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli 4,500. Fe fydd yn cynyddu’r dyfalu am effaith UKIP ar seddi eraill ac mewn rhannau arbennig o wledydd Prydain.
Ac mae sylwebwyr UKIP eisoes wedi dechrau galw am newid yn y drefn ethol – wrth ragweld tua 12% o’r bleidlais ond bron ddim seddi.
11.02pm: Mae Iolo Cheung wedi bod yn siarad â’n gohebwyr ni yn yr etholaethau, ac maen nhw’n parhau i drafod yr exit poll yna.
Yn ôl Mick Antoniw, Aelod Cynulliad Llafur dros Bontypridd, mae canlyniad y pôl “yn syfrdanol, dw i wir wedi synnu – nid dyna ydi’r ymateb rydan ni wedi ei gael ar y stepen ddrws”.
Ychwanegodd hefyd bod pethau’n edrych yn agos rhwng UKIP a Phlaid Cymru ym Mhontypridd.
Draw yng Ngheredigion mae’r ymgeisydd Ceidwadol wedi disgrifio’r pôl fel un “stupendous” – os yw’n wir, hynny yw. Mae’n thema gyffredin hyd yn hyn, gyda nifer o Geidwadwyr yn ofalus i beidio cyffroi gormod o weld y ffigyrau.
A draw yn Llanelli, mae Lewys Theo Evans wedi bod yn sgwrsio ag asiant yr ymgeisydd UKIP yno, Ken Rees.
Dywedodd yr asiant bod “pleidleisio Llafur yn ‘habit’ yn Llanelli” a bod pobl yn barod i dorri’r arfer hwnnw, gyda phleidiau llai fel UKIP a Phlaid Cymru yn arwain y ffordd wrth geisio eu herio.
11.00pm: Tips Dylan Iorwerth – Beth i chwilio amdano #4
Peidiwch â llyncu’r polau’n llwyr, hyd yn oed y pôl wrth-adael. All hyd yn oed hwnnw ddim darogan beth fydd yn digwydd o sedd i sedd … hyd yn oed os byddan nhw wedi ceisio ystyried gwahaniaethau rhanbarthol.
Yn draddodiadol mae’r polau’n methu â mesur ffactorau lleol a’r elfennau sy’n mynd yn groes i’r duedd gyffredinol … poblogrwydd ymgeisydd neu aelod, materion llosg penodol iawn neu jyst ddiawledigrwydd pobol mewn llefydd fel Ynys Môn.
Ac mae’r ffaith fod ambell blaid yn gry’ iawn mewn ardaloedd daearyddol cymharol fach – fel Plaid Cymru yn y Gorllewin, neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ne-orllewin Lloegr yn gallu tanseilio casgliadau’r arolygon barn cyffredinol.
Ac un elfen fawr arall, maint y bleidlais i gyd – mewn gwahanol ardaloedd, fe allai hynny gael dylanwad mawr a’r blaid gyda’r gefnogaeth fwya’ solet, frwd, fydd yn ennill.
22.59pm: Dywed Peter Kellner, Llywydd YouGov, bod gogwydd yn yr ‘exit poll’ tuag at Lafur yng ngogledd ddwyrain Lloegr, ond yn eu herbyn yng ngweddill y wlad. Gallai hynny esbonio canlyniad Sunderland South?
22.58pm: Dywed yr Athro Simon Hix o Ysgol Economaidd Llundain ei fod yn debygol y bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn colli ei sedd, os yw y ‘pôl wrth adael’ yn gywir.
22.56pm: Y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu blaendal yn Sunderland South. Dyna ddigon o or-ddadansoddi un sedd, efallai!
22.53pm: Wel wir – UKIP yn yr ail safle yn Sunderland South, ar 21% o’r bleidlais. Arwyddocaol at y dyfodol? Gogwydd o Lafur i UKIP o 7%.
Bydd yn ddiddorol gweld a ydyn nhw’n sicrhau pleidlais tebyg yn rhai o seddi saff Llafur yng Nghymru.
22.52pm: Tips Dylan Iorwerth – Beth i chwilio amdano #3
Pan fydd y canlyniadau’n dechrau dod i mewn mae’n werth chwilio am wahanol batrymau mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Un o’r cwestiynau y tro yma fydd dylanwad UKIP yn Lloegr. Hyd yn oed os na chan’ nhw lawer o seddi, fe allai maint eu pleidlais fod yn allweddol mewn llwyth o seddi ymylol.
Felly, fe fydd hi’n werth edrych i weld oddi ar pa un o’r ddwy blaid fawr y maen nhw’n tynnu pleidleisiau fwya’.
Ac o’r ochr arall, i ba un o’r ddwy blaid fwya’ y bydd pleidleisiau coll y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd.
22.51pm: Mae Llafur wedi ennill sedd gynta’r noson yn Sunderland South.
22.50pm: Mae’r Ceidwadwyr yn honni eu bod nhw’n dawel hyderus o ennill South Thanet – y sedd y mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, yn ymgeisio amdani.
22.48pm: Yr exit poll cyntaf yna dal yn destun trafod – ymgeisydd Llafur Ceredigion, Huw Thomas, ddim yn swnio’n rhy hapus o gwbl gyda’r awgrym y byddai’r Ceidwadwyr deg sedd yn unig yn brin o fwyafrif.
“Os yw’r [exit polls] yn wir, fe fuasai hynny’n ddychrynllyd i’r wlad, i’r henoed, pobl ifanc, pobl anabl – pawb,” meddai.
22.47pm: Dadansoddiad Dylan – Daliwch eich dŵr …
Nid pôl wrth-adael y darlledwyr ydy’r unig un.
Mae’r cwmni arolygon, YouGov, hefyd wedi cynnal un sy’n awgrymu canlyniad cwbl wahanol … yn llawer nes at eu polau piniwn tros yr wythnosau diwetha.
Mae hwnnw’n rhoi 284 sedd i’r Ceidwadwyr a 263 i Lafur, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 31.
Dyw’r SNP ddim yn gwneud cweit cystal, ar 48 – ond yn rhyfeddol er hynny – ac mae YouGov yn awgrymu bod Plaid yn aros ar 3.
Fe fyddai hynny’n agor y drws ar bob math o drafodaethau a bargeinio ond, yn wahanol i arolwg y darlledwyr, fyddai dim llawer o syndod yng Nghymru.
Os yw’r Ceidwadwyr yn gwneud yn dda iawn, fe fyddai rhai seddi yng Nghymru’n rhoi canlyniadau annisgwyl … fe allai Gwyr fynd i’r Torïaid, fe allai Gogledd Caerdydd aros gyda nhw.
Gydag YouGov, fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fyw o hyd; gydag arolwg y darlledwyr, fe fydden nhw’n ôl i’r dyddiau cyn Jeremy Thorpe.
22.46pm: Mae gan S4C y sgrin fwyaf y mae Dewi Llwyd erioed wedi ei weld!
22.43pm: Tips Dylan Iorwerth – Beth i chwilio amdano #2
Y brawddegau sy’n dangos nad ydy pethau’n mynd yn dda …
“Mae’n naturiol fod plaid fach yn cael ei gwasgu mewn etholiad fel hyn.”
“Mae’n draddodiadol fod yr ail blaid mewn llywodraeth glymblaid yn cael ei chosbi.”
“Doedden ni erioed wedi disgwyl mwyafrif clir achos roedden ni’n gwybod ei bod hi’n hawdd iawn i lywodraeth daflu llwch i lygaid y bobol.”
“Roedd hi’n amlwg, ar ôl pum mlynedd, bod unrhyw lywodraeth am fod yn amhoblogaidd.”
“Fe gawson ni ymgyrch wirioneddol dda, jyst fod pobol wedi penderfynu pleidleisio i rywun arall.”
10.43pm: Mae’r bunt wedi ymateb yn gadarnhaol i’r ‘pôl cyn gadael’. Mae’r farchnad yn hoffi sefydlogrwydd, ac mae parhad o lywodraeth geidwadol yn sicrhau hynny.
10.40pm: Mae Owain Hughes yn gohebu i ni o ganolfan gyfrif Ceredigion – ac mae’n edrych fel brwydr agos iawn rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Y spotters ar yr ochrau yn dweud ei bod pethau’n reit hafal rhwng y ddwy blaid ar ddechrau’r cyfrif. Dydi Mark Williams a Mike Parker ddim yno eto ond mae Huw Thomas (Llafur), Henrietta Hensher (Ceidwadwyr) a Daniel Thompson (Gwyrddion) wedi cyrraedd.
Roedd sôn yn gynharach yn yr wythnos bod Plaid Cymru yn gwneud yn well na’r disgwyl yn y pleidleisiau post, ond wrth gwrs mae ganddyn nhw fwyafrif mawr i geisio lleihau felly cawn weld yn nes ymlaen pa mor agos ydyn nhw.
10.39pm: Mae’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw’n hyderus o gadw Bro Morgannwg o afael y Blaid Lafur. Alun Cairns yn saff?
10.37pm: Mae disgwyl y canlyniad yn Ynys Môn tua 1.30am, meddai ein gohebydd yno, Jamie Thomas.
Dim ond Michelle Willis o’r Ceidwadwyr a Mark Rosenthal o’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd yno hyd yn hyn.
10.36pm: Mae gohebydd gwleidyddol Golwg, Gareth Pennant, yn adrodd bod y cyfrif eisoes wedi dechrau ym Mhontypridd. Mae disgwyl y bydd y canlyniad yn ein cyrraedd ni tua 5.00 o’r gloch y bore.
Mi fydd yr ymgeisydd Llafur a deiliad y sedd, Owen Smith, hefyd yn cyrraedd y ganolfan gyfrif am tua 1.00 o’r gloch – tybed a fydd y darlun i’w blaid ef rhywfaint yn well erbyn hynny na’r exit poll syfrdanol cyntaf yna?
10.35pm: Tips Dylan Iorwerth – Beth i chwilio amdano #1
Pan fydd llinellau coch yn troi’n binc ac wedyn bron yn wyn. Gwrandewch yn ofalus ar y llefarwyr yn y gwahanol stiwdios.
“Na fyddwn ni ddim yn taro bargen gyda’r SNP, ond dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu na allwn ni siarad gyda nhw a thrafod ac efallai ddod i gytundeb bob hyn a hyn … ond na, yn bendant, fyddwn ni ddim yn taro bargen.”
“Wrth gwrs ein bod ni wedi dweud ein bod ni’n mynd i ennill … ond roedden ni i gyd yn gwybod o’r dechrau mai ychydig o blyff oedd hynny … a do, fe ddwedson ni fod Farage yn dwat ond, oherwydd ein bod ni wedi dweud hynny, mae e wedi newid a dod yn foi da.”
“Ni ydy’r unig blaid sydd wedi dweud o’r dechrau ein bod ni’n barod i helpu unrhyw lywodraeth ond does dim angen llawer o seddi i fod yn ddylanwadol.”
“Oedden ni eisie £1.2 biliwn ond, chware teg, mae £100 miliwn yn well na dim.”
10.30pm: Mae’r BBC yn awgrymu ar sail y pôl piniwn mai dim ond o drwch blewyn y bydd Llafur yn cipio Gogledd Caerdydd – un o’r seddi hawsaf iddyn nhw eu cipio yn y Deyrnas Unedig.
10.28pm: Mae gan YouGov ‘pol wrth adael’ gwahanol.
Ceidwadwyr – 284.
Llafur – 263
Democratiaid Rhyddfrydol – 31
SNP – 48
Mae hon yn edrych ychydig yn llai syfyrdanol, ac yn fwy tebygol.
10.24pm: Neges gan Iolo Cheung yng Nghaerdydd
Croeso o’r Stafell Sbin yng Nghaerdydd! Mae’r polau newydd gau, a dros yr oriau nesaf rydan ni’n disgwyl i fan hyn brysuro wrth i’r sylwebwyr ac ambell wleidydd daro mewn i gael sgwrs.
Mi fyddwn ni hefyd yn dod â’r diweddaraf gan ein gohebwyr ni yn rhai o’r cyfrifon ar hyd a lled Cymru yn ystod y noson – yn ôl Lewys Theo Evans mae’r cyfrif eisoes wedi dechrau yn Nhref y Sosban ar gyfer etholaethau Llanelli, a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
10.22pm: Dadansoddiad Dylan – Y pôl wrth-adael
Mae’r arolwg wrth-adael wedi synnu’r rhan fwya’ o sylwebwyr ond mae’n awgrymu, unwaith eto, bod rhai pobol wedi bod yn swil rhag dweud wrth yr arolygon barn cynharach eu bod yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr.
Mae’r canlyniad hefyd yn awgrymu bod amheuaeth rhai yn gywir y byddai ofn newid yn dylanwadu’n fawr ar bobol ar y funud ola’.
Mae hefyd yn golygu, bron yn gwbl sicr, mai’r Ceidwadwyr fydd y Llywodraeth nesa ac, efallai, y gallan nhw fentro heb gynghreirio gyda neb gan ddibynnu ar gefnogaeth aelodau Unolaethol Gogledd Iwerddon, UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol pan fydd pleidleisiau anodd.
Ar y llaw arall, fe allen nhw fynd am bartneriaeth ffurfiol gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol i’w codi’n agos iawn at fwyafrif clir, ond fyddai gan y Dem Rhydd fawr ddim dylanwad.
Os bydd hynny’n digwydd, mae’r arolwg yn newyddion drwg i Lafur ac, ar un agwedd, i’r SNP oherwydd na fydden nhw’n cael cyfle i ddylanwadu yn San Steffan. Mi allai clymblaid o bleidiau gweddol flaengar (o gynnwys y Dem Rhydd) ddod yn agos at fwyafrif clir, ond fe fyddai’n anodd cyfiawnhau hynny.
Fel arall, mae’n ymddangos bod yr SNP am gael canlyniadau rhyfeddol – a’r peryg o bleidleisio tactegol yn eu herbyn heb ddigwydd. Fe fyddai hynny eto’n arwydd o fethiant gwleidyddion Lloegr i ddeall beth sy’n digwydd yno.
Fe fyddai Llywodraeth Geidwadol arall yn cryfhau’r galw am refferendwm arall yno.
10.17pm: Dim ond 2,000 a bobl a holwyd yn yr Alban fel rhan o’r ‘exit poll’, felly mae’n bosib nad ydynt yn arbennig o gywir wrth ddatgan y bydd yr SNP yn ennill pob sedd ond un.
Gellid dyfalu mai sampl bychan iawn oedd yng Nghymru hefyd.
10.14pm: Bristol West yn nwylo’r Gwyrddion meddai Sky News. Fe fyddai hynny’n noson dda iddyn nhw, fel y nodwyd isod.
10.13pm: Os yw canlyniadau yr ‘exit poll’ yn gywir, fe fydd yn noson wael i drefnwyr y polau piniwn. Roeddynt hwy wedi awgrymu ei bod hi’n dynn iawn rhwng y ddwy blaid.
10.12pm: Dywed Michael Gray, sylwebydd o bapur newydd The National, fod yna deimladau cymysg ymysg cenedlaetholwyr yr Alban – gorfoledd gyda canlyniad yr SNP, ond torcalon y gallai y Ceidwadwyr fod ar eu ffordd i ffurfio llywodraeth arall.
10.08pm: Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon wedi trydar i ddweud ei bod hi’n meddwl bod canlyniad yr ‘exit poll’ – a fyddai yn sicrhau eu bod nhw’n ennill bob sedd ond un yn yr Alban – yn “anhebygol”.
10.06pm: Byddai gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol fwyafrif union gyda’r ffigyrau rhain. Byddai’r DUP yn roi rhywfaint o le iddynt anadlu.
Os yw’r ‘exit poll’ yn gywir, bydd hon yn noson hanesyddol i sawl plaid – am y rhesymau cywir i rai, anghywir i eraill!
10.04pm: Plaid Cymru ar 4, y Gwyrddion ar 2.
Yr awgrym fan hyn rwy’n cymryd yw y bydd Plaid yn ennill Ceredigion? Ffigyrau trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a calonogol i Blaid Cymru.
10.02pm: Noson dda iawn i’r Ceidwadwyr a’r SNP – noson wael i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur – os yw’r ‘exit poll’ yn gywir.
10.01pm: Yr ‘exit poll’:
Ceidwadwyr – 316
Llafur – 239
SNP – 58
Democratiaid Rhyddfrydol – 10
UKIP – 2
10pm: Mae’r ‘exit poll’ yn dweud mae’r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf.
Roedd ‘exit poll’ 2010 yn hynod o gywir. Does dim disgwyl yn union yr un cywirdeb eleni oherwydd bod y ras mor agos.
9.59pm: Mae ein gohebydd yn Ynys Môn, Jamie Thomas, newydd gyrraedd y cyfri. Mae wedi ysgrifennu sawl erthygl am y sedd sydd i’w gweld ar y blog gwleidyddiaeth.
9.51pm: Mae Dr Carwyn Tywyn, cyn-ohebydd Cynulliad Golwg, wedi rhoi’r gwybodaeth ganlynol i ni:
“Turnout Porth Tywyn (etholaeth Llanelli) rhwng 70-75%. Turnout Llanelli gyfan yn 2010 oedd 67%.”
Mae’r bwcis wedi awgrymu y bydd dros 69.5% wedi pleidleisio heddiw. Efallai bod yr ymgyrch estynedig, neu agosrwydd yr ornest, wedi annog rhagor i gymryd rhan?
9.47pm: Newydd gwblhau ein darllediad Periscope cyntaf yn trafod ein disgwyliadau ar gyfer y noson. Mae modd ei wylio’n ôl fan hyn.
9.33pm: Yr SNP – seddi i gadw golwg arnynt.
Mae llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant yr SNP yn hanfodol i hynt yr etholiad hwn. Hebddynt fe fyddai Llafur yn ennill mwyafrif yn weddol rhwydd.
Os nad yw’r ‘Jockolypse’, chwedl Boris Jonson, yn digwydd – neu yn amlygu ei hun ar raddau llai na’r disgwyl, fe allai Llafur ennill mwy o seddi na’r Ceidwadwyr.
Na h-Eileanan an Iar fydd un o’r cyntaf i ddatgan, am 1.30am. Mae’r SNP eisoes mewn grym yma, ond dyma fydd yr arwydd cyntaf o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu I’r blaid.
Bydd Rutherglen & Hamilton West a Kirkcaldy & Cowdenbeath (cyn-sedd Gordon Brown) yn datgan am 2am. Os yw’r SNP yn cipio’r seddi Llafur rhain mae’n arwydd cynnar eu bod nhw’n debygol o sicrhau enillion mawr.
Os yw sedd Jim Murphy, Renfrewshire East, a Douglas Alexander, Paisley & Renfrewshire South, yn syrthio i’r SNP tua 3am fe fydd Llafur yr Alban yn wynebu colledion mawr iawn. Mae’r un peth yn wir am y Democratiaid Rhyddfrydol pe bai Danny Alexander yn cael ei drechu yn Inverness tua 5am.
9.29pm: Mae Betfair yn darogan bod gan yr SNP 84% siawns o ennill dros 43.5 sedd, a’r LSE bod gan yr SNP 88% siawns o ennill mwy na 50 o seddi.
9.27pm: UKIP – seddi i gadw golwg arnynt.
Yng Nghymru maen nhw’n gobeithio ennill tir sylweddol yn Ynys Môn, Alun a Dyfrdwy, Delyn, Merthyr Tudful a Rhymni, De Caerdydd a Phenarth, Blaenau Gwent, Aberconwy, Torfaen, Islwyn a Chwm Cynon. Er eu bod nhw’n parhau i fynnu eu bod nhw’n mynd i ennill seddi, mae’r polau piniwn a’r bwcis yn awgrymu bod hyn yn anhebygol.
Ledled y Deyrnas Unedig, maen nhw’n gobeithio ennill South Thanet, ble mae Nigel Farage yn ymgeisydd, North Thanet, Boston & Skegness, Castle Point, Clacton, Rochester & Strood, a Thurrock. Fe fydd yr olaf yn datgan am 3am ac cynnig awgrym cynnar o’u cefnogaeth. Os nad yw Farage yn ennill South Thanet am 6am, mae wedi addo ymddiswyddo.
Byddai ennill unrhyw sedd yng ngogledd Lloegr yn hwb mawr i’w dadl fod modd iddynt herio Llafur yn ogystal a’r Ceidwadwyr.
9.15pm: Rydym yn gobeithio gwneud ambell i ddarlleiad ar Periscope yn ystod y noson, a thrafod y canlyniadau. Os nad ydych chi wedi lawrlwytho’r app yma i’ch iPadiau neu eich iFfônau, dyma eich cyfle chi! Dilynwch Golwg360 am y diweddaraf.
9.08pm: Y Ceidwadwyr – seddi i gadw golwg arnynt.
Mae gan y Ceidwadwyr dasg ddeublyg – atal ymosodiad Llafur, tra’n canibaleiddio seddi eu partneriaid yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna pam bod un o seddi Cymru, Brycheiniog a Sir Faesyfed, mor bwysig iddynt ar lefel Brydeinig. Ar hyn o bryd mae disgwyl iddynt golli tua 40 o seddi i Lafur, tra’n ennill ychydig dros 10 gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Bydd hi’n werth cadw golwg ar Northampton North am 2am. Os yw Llafur yn ei hennill, mae’n awgrymu y bydd hi’n noson wael i’r Ceidwadwyr.
9.04am: Mae sawl awgrym bod y nifer sydd wedi pleidleisio yn uwch na’r arfer yn yr etholiad hwn. O ganlyniad mae’r bwcis bellach yn credu bod dros 69.5% yn pleidleisio yn fwyaf tebygol.
Roeddwn i wedi pleidleisio ym Mhenrhiwllan am 7.20am, ac roedd o leiaf dwsin wedi bod yna o fy mlaen i! Roedd sawl un yno pan adawais i ddod i’r swyddfa hefyd.
9.00pm: Dim ond awr sydd i fynd nes bod y canolfannau pleidleisio yn cau. Fe fydd yr ‘exit poll’ yn cael ei gyhoeddi bryd hynny, gan roi digon i’r sylwebwyr gnoi cil arno am ychydig oriau nes bod y pleidleisiau go iawn yn cael eu cyfri’.
Os nad ydych chi wedi pleidleisio eto – ewch amdani!
8.57pm: Llafur – seddi i gadw golwg arnynt.
Yng Nghymru, maent bron yn sicr o gipio Canol a Gogledd Caerdydd. Byddai cipio Arfon yn ogystal yn geiriosen ar frig y gacen.
Ar noson arbennig o dda gallent hefyd ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a Bro Morgannwg. Ymddengys fod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Phreseli Penfro, y tu hwnt i’w gafael.
Ledled y Deyrnas Unedig, mae disgwyl iddynt ennill tua 39 o seddi, y mwyafrif ohonynt o afael y Ceidwadwyr. Ni fyddai hynny’n ddigon i sicrhau mwyafrif, yn enwedig os yw’r SNP yn eu chwalu yn yr Alban.
Bydd werth cadw golwg ar Nuneaton am 1am – dyma’r union math o sedd y mae’n rhaid i Lafur ei hennill er mwyn trechu’r Ceidwadwyr.
8.52pm: Mae sôn y bydd pethau’n dynn i’r Democrat Rhyddfrydol adnabyddus, Simon Hughes, sy’n amddiffyn mwyafrif o 8,500 rhag y Blaid Lafur yn Bermondsey. Dyma sedd y mae disgwyl iddynt ennill, ac fe fyddai canlyniad gwael yno yn awgrymu noson wael i’r blaid.
8.49pm: Mae llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol wedi dweud wrth bapur newydd y Sun eu bod nhw’n disgwyl ennill 302 o seddi. Mae hynny braidd yn or-obeithiol yn ôl y polau piniwn – ond pwy a wyr?
8.46pm: Y Democratiaid Rhyddfrydol – seddi i gadw golwg arnynt.
Yng Nghymru, mae disgwyl iddynt golli Canol Caerdydd, ac i’w pleidlais chwalu yn gyffredinol mewn nifer o seddi a oedd yn rhai cystadleuol â’r Blaid Lafur. Fel arall fe fydd yn fater o wneud popeth o fewn eu gallu i gadw Brycheiniog a Sir Faesyfed a ddwylo’r Ceidwadwyr, a Ceredigion gan Blaid Cymru. O lwyddo i gyflawni hynny fe fydd yn noson reit dda iddynt. Ar noson wych fe fydden nhw’n ennill Sir Drefaldwyn yn ôl gan y Ceidwadwyr.
Ledled Prydain maent yn wynebu brwydr o sawl cyfeiriad, gyda Llafur, y Ceidwadwyr a’r SNP yn disgwyl ennill tua 30 o’u seddi. Os ydyn nhw’n colli sedd eu harweinydd Nick Clegg, yn Sheffield Hallam tua 4.30am, fe fydd pethau yn edych ddu iawn arnynt ac unrhyw glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn llai tebygol.
Daw i’r amlwg tua 2am a ydynt yn wynebu noson wael, wrth i seddi a ddylai fod yn weddol saff, megis Eastleigh a Yeovil, ddatgan eu canlyniadau.
8:41pm: Y Blaid Werdd – seddi i gadw golwg arnynt.
Does dim disgwyl iddynt ennnill unrhyw seddi yng Nghymru, ond fe allent ddylanwadu ar ffawd ambell un, megis Ceredigion. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi ennill yno pan mae ymgeisydd o’r Blaid Werdd hefyd wedi sefyll, fel sy’n digwydd eto eleni.
Ledled y Deyrnas Unedig maent yn gobeithio cadw gafael ar sedd Caroline Lucas yn Brighton. Y tu hwnt i hynny fe allen nhw gipio Bristol West a Norwich South.
8.34pm: Plaid Cymru – seddi i gadw golwg arnynt.
Byddai colli Arfon yn noson wael i’r Blaid, ennill Ynys Môn neu Geredigion yn noson dda, a chipio Llanelli yn noson anhygoel.
Mae Plaid Cymru yn gobeithio sicrhau eu canran uchaf o’r bleidlais mewn Etholiad Cyffredinol heno. Ond a fydd hynny yn golygu rhagor o seddi i’r blaid?
Ar ôl y sylw y mae eu harweinydd, Leanne Wood, wedi ei gael ar y cyfryngau prif lif yn yr etholiad hwn, a chwalfa y Democratiaid Rhyddfrydol, fe fydd yna deimlad mai dyma’r cyfle euraid i ail-gipio’r sedd honno.
Bydd Ynys Môn yn dalcen caletach oherwydd mae cefnogaeth y Blaid Lafur ar i fyny ers 2010. Efallai mai’r gobaith mwyaf yno yw bod UKIP yn mynd a rhai o bleidleisiau Llafur gan adael y ffordd yn glir i Blaid Cymru.
Ni fyddai Llanelli yn gystadleuol fel arfer, a mae’r Blaid Lafur wedi dal y sedd ers bron i 100 mlynedd. Ond mae ymgeisydd Plaid Cymru, Vaughan Williams, wedi gweithio’n galed yno ac yn obeithiol am ganlyniad gwell na’r arfer.
8.22pm: Dyma fy nghanllaw cwbl oddrychol i’r seddi i gadw golwg arnynt o awr i awr yng Nghymru heno:
Amserlen Etholiad 2015 yng Nghymru
Mae’r mwyafrif, wrth gwrs, yn weddol rhwydd eu darogan. Yr unig rai sydd wir yn y fantol yn fy nhyb i yw Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd, Arfon, Brycheiniog a Sir Faesyfed – ac i raddau llai Ynys Môn, Aberconwy, a Cheredigion.
8.05pm: Dywed yr awdures, a cholofnydd Golwg, Manon Steffan Ros ar Twitter: “Heddiw, nes i weld terrier bach yn gwisgo rosette suffragettes yn y llyfrgell. Dwi’n CARU byw yn Nhywyn.”
7.54pm: Bydd gan y pleidiau eisoes ryw fath o syniad i ba gyfeiriad y mae’r gwynt yn chwythu yn genedlaethol erbyn hyn. Mae ganddyn nhw bobol yn cyfri pleidleisiwyr y tu allan i nifer o orsafoedd pleidleisio y wlad, ac yn gallu gweld a yw eu cefnogwyr nhw wedi troi allan ai peidio. Wrth gwrs, ni fydd unrhyw un yn cyfaddef unrhyw beth nes ar ôl i’r pleidleisio ddod i ben mewn tua dwyawr. Os yw pethau’n mynd yn wael dydyn nhw ddim am gyfaddef hynny, gyda’r peryg na fydd eu cefnogwyr yn trafferthu dod allan.
Fe fydd ambell i sylw ysmala ar Twitter yn awgrymu bod eu hochor nhw yn gwneud yn wych, wrth gwrs!
7.47pm: Croeso i flog byw noson etholiad Golwg 360! Fe fydd y blog yn diweddaru’n gyson o hyn ymlaen, a drwy gydol y nos nes bod y canlyniadau olaf yn ein cyrraedd ni tua 6am.
Os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud, gadewch sylw isod, atiwch ni ar Twitter, neu gyrrwch neges at ifanjones@gmail.com.
Rhagymadrodd: Mae’r diwrnod mawr bron wedi’n cyrraedd ni – ar ôl misoedd o drafod, dyfalu a dadlau, fory fe fydd pobl Prydain o’r diwedd yn bwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol 2015.
Ac fe fyddwn ni yma ar Golwg360 yn dilyn yr hynt a’r helynt pob cam o’r ffordd wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau, a’r cyfrif yn dechrau i weld pwy fydd yn mynd â hi eleni.
Dilynwch ni drwy’r nos yma ar y Blog Byw wrth i ni ddod â holl ganlyniadau Cymru i chi cyn gynted ag y maen nhw’n cael eu cyhoeddi, gan gynnwys ymateb y gwleidyddion.
Byddwn ni hefyd yn cadw llygad ar y darlun ehangach sydd yn datblygu drwy Brydain, gan gynnwys y diweddaraf yn yr Alban, wrth i’r noson fynd yn ei flaen.
Canlyniadau, clecs a dadansoddi
Yn ystod y noson fe fydd Ifan Morgan Jones, Iolo Cheung a Llywelyn Williams yn cyfrannu at y blog byw gan gasglu’r holl ganlyniadau pwysig at ei gilydd i chi.
Fe fyddwn ni hefyd yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddod a’r clecs difyr i chi a rhoi lle i chi adael eich sylwadau a’ch ymateb chi i ddatblygiadau’r noson.
Yn ogystal â hynny fe fydd Dylan Iorwerth gyda ni yn cynnig ei ddadansoddiad craff yntau o’r canlyniadau fydd yn llifo mewn a’i farn ef ar sut fydd y gwynt yn chwythu.
Ac fe fyddwn ni hefyd hyn clywed gan ein gohebwyr mewn amryw o ganolfannau cyfrif ar draws Cymru gan gynnwys Ynys Môn, Arfon, Aberconwy, Ceredigion, Llanelli, Rhondda a Chaerdydd.
Yna, pan fydd y canlyniadau’n ein cyrraedd ni, fe ddown ni ag ymateb yr ymgeiswyr buddugol ac aflwyddiannus yn ogystal â sylwadau’r gwleidyddion a’r pleidiau yng Nghaerdydd.
Ac os fyddwch chi dal ar eich traed yn y bore (neu wedi codi i weld y canlyniadau), arhoswch gyda ni ar Golwg360 wrth i ni gloriannu’r canlyniadau a gweld beth fydd y canlyniadau’n ei olygu ar gyfer y pleidiau a’r llywodraeth – ac i ni yma yng Nghymru.