Hen lanfa Pier Llandudno
Mae pier enwog Llandudno wedi cael ei werthu am £4.5 miliwn.
Y dyn busnes lleol Adam Williams, sy’n berchen cwmni Tir Prince, sydd wedi prynu’r pier, gyda chefnogaeth banc Barclays.
Yn ôl adroddiadau, roedd cynigion uwch na’r pris gwerthu wedi cael eu cynnig ond penderfynwyd gwerthu’r atyniad i ddyn lleol.
“Mae’r fargen wedi’i chwblhau ac mae’r pier nawr yn nwylo rhywun lleol. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod yn berchen yr atyniad hyfryd yma,” meddai Adam Williams wrth Wales Online.
“Fe es i’r ysgol yn Llandudno a chael fy magu yn edrych ar y pier. Roedd fy nhad Billy wastad eisiau ei brynu hefyd.”