Mae barnwr yng Nghaerdydd wedi dyfarnu y dylai dynes awtistig sy’n dioddef o sgitsoffrenia gael triniaeth ar ei chalon, er nad yw hi eisiau i hynny ddigwydd.
Clywodd y gwrandawiad bod gan y ddynes, na ellir ei henwi, broblemau a’i chalon sy’n fygythiad i’w bywyd ond ei bod hi’n mynnu nad yw hi eisiau triniaeth.
Dyfarnodd y barnwr Isabel Parry fis Ebrill nad oedd gan y ddynes y gallu i dderbyn neu wrthod penderfyniadau ac y dylai’r driniaeth fynd yn ei blaen. Dywedodd hefyd y gall meddygon ddefnyddio mesurau corfforol neu gemegol er mwyn sicrhau ei bod yn cael y llawdriniaeth.
Roedd awdurdod iechyd wedi gofyn i’r barnwr gymeradwyo’r driniaeth, yn ôl adroddiadau.
“Nid yw hwn yn fater lle mae triniaeth feddygol yn ddymunol a fyddai’n gwneud bywyd y ddynes yn haws. Mae’n fater o fyw neu farw os nad yw hi’n cael y driniaeth,” meddai’r barnwr.