Mae cwmni bysiau annibynnol mwyaf Cymru, Edwards Coaches, wedi derbyn buddsoddiad gwerth £2.2 miliwn gan Santander Corporate & Commercial i ehangu eu busnes a chyflogi mwy o bobol.

O ganlyniad i’r buddsoddiad mwyaf yn hanes y cwmni, sydd a’i bencadlys yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd, bydd 10 coets Mercedes newydd yn cael eu prynu – i ychwanegu at y 300 sydd ganddyn nhw’n barod.

Mae’r cwmni yn cludo Tîm Undeb Rygbi Cymru, Tîm pêl-droed Cymru a Thîm Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rheolaidd, yn ogystal â mynd a 6,500 o ddisgyblion i’r ysgol bob diwrnod ac 80,000 o bobol ar wyliau bob blwyddyn.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Masnachol Jason Edwards bod y cwmni yn gobeithio cyflogi mwy o bobol dros y blynyddoedd i ddod:

“Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau ein bod ni ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth dosbarth cyntaf i’n cwsmeriaid.

“Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi dros 470 o bobol yn Llanilltud Faerdref, Abertawe, Casnewydd a Gorllewin Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu dros y blynyddoedd nesa’.”