Mae bron i 2,500 o bobl o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi arwyddo deiseb yn galw ar gynghorwyr sir i wahardd ffracio yn yr ardal.

Ymunodd grŵp o drigolion lleol gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru i gyflwyno’r ddeiseb i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a galw ar y cyngor i gynnal pleidlais ar wahardd ffracio.

Ffracio yw’r broses ddadleuol o dyllu am nwy siâl gan  chwistrellu dŵr a chymysgedd cemegol i’r graig er mwyn rhyddhau’r nwy.

Mae’r ddeiseb wedi cael ei chyflwyno ddiwrnod yn unig wedi i Blaid Cymru leisio “rhwystredigaeth” gyda Llywodraeth Cymru am atal ymdrechion y Blaid i gyflwyno gwelliant i’r Bil Cynllunio (Cymru) i gynnwys moratoriwm ar ffracio.

Dywedodd Hannah Sinnott wnaeth sefydlu’r ddeiseb: “Mae’r math anghonfensiynol yma o dyllu am nwy yn fyrhoedlog, tra gallai’r effaith amgylcheddol bara am genedlaethau.

“Drwy ddatgan bod Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahardd ffracio, byddwn yn arwain y ffordd at ddyfodol glanach a mwy cynaliadwy.

“Gallwn ni osod cynsail ar gyfer awdurdodau lleol eraill drwy ddangos ein bod yn gwneud newidiadau cyfrifol a chadarnhaol yn ein cymuned.”