Nigel Farage, arweinydd UKIP
Mae’r heddlu yn ymchwilio i sylwadau un o ymgeiswyr UKIP sy’n cael ei amau o wneud sylwadau hiliol a bygwth saethu ei wrthwynebydd.

Cafodd Robert Blay, sy’n sefyll yn ardal gogledd ddwyrain Hampshire, ei ffilmio mewn fideo sydd wedi cyrraedd dwylo’r Daily Mail yn gwneud sylwadau am ei wrthwynebydd Ranil Jayawardena, sy’n sefyll ar ran y Ceidwadwyr.

Honnir bod y sylwadau wedi eu gwneud mewn cyfarfod yn Ramsgate lle’r oedd yr arweinydd Nigel Farage yn bresennol.

Yn ôl y Daily Mail, roedd Robert Blay – sy’n gyn-aelod o’r Ceidwadwyr – wedi dweud y byddai’n rhoi “bwled rhwng llygaid”  Ranil Jayawardena pe bai’n cael ei ethol fel y Prif Weinidog Asiaidd cyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod Robert Blay wedi cael ei wahardd o’r blaid a bod angen gwneud y broses o asesu ymgeiswyr yn fwy trylwyr.

Mae heddlu Hampshire wedi dweud nad ydyn nhw wedi arestio unrhyw un ar hyn o bryd.