Mae pedwar dyn – gan gynnwys un o Gasnewydd – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ecsbloetio plant yn rhywiol.

Cafodd y dynion eu harestio mewn pedwar lleoliad ym Mryste ac eiddo yn ardal Casnewydd.

Honnir fod y troseddau wedi digwydd yn ardal Bryste rhwng 2011 a 2013, ac maen nhw’n cynnwys tri o ddioddefwyr oedd rhwng 12 a 15 oed ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf: “Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad hwn, ffoniwch ni ar 101 a gofynnwch am gael siarad ag ymchwiliadau Bryste.”