Fe wnaeth dyn o Gastell Nedd osod golau glas ar ei gar gyda’r ysgrifen ‘Gwasanaethau Brys’ ar yr ochr cyn cael i ddal yn gyrru ar gyflymder o 73 milltir yr awr o amgylch Castell-Nedd.

Roedd Philip Lemonheigh, 59 oed, wedi goryrru o amgylch Llantrisant wrth nôl nwyddau i’w wraig ac ar un adeg wedi gyrru trwy olau coch oedd wedi newid ers 24 eiliad.

Er nad oedd ganddo drwydded yrru, cafodd ei ddal gan gamera cyflymder a’i arestio ym mis Gorffennaf 2013.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe nad oedd erioed wedi gweld “achos mor od”.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu fis nesaf ar ôl iddo bledio’n euog i’r cyhuddiadau heddiw.