Tanc yn gwarchod y ffin rhwng Twrci a Syria
Mae tair merch ysgol wedi ffoi o Brydain a chredir eu bod yn teithio i Syria er mwyn ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae Shamima Begum, 15, Kadiza Sultana, 16, ac un merch 15 mlwydd oed sydd heb gael ei henwi, i gyd o ddwyrain Llundain.

Mae’n debyg eu bod nhw wedi hedfan i Istanbul yn Nhwrci o faes awyr Gatwick ddydd Mawrth, a hynny heb adael unrhyw negeseuon i’w teuluoedd neu ffrindiau.

Nawr, mae Scotland Yard wedi cyhoeddi apêl brys am wybodaeth am y merched coll oedd yn mynd i Ysgol Academi Bethnal Green.

Dywedodd y Comander Richard Walton bod y merched i gyd yn ffrindiau da gyda merch 15 mlwydd oed arall aeth i Syria ym mis Rhagfyr.

Dywedodd fod yr heddlu yn pryderu am y tuedd ymysg merched ifanc i ddangos diddordeb neu fwriad mewn ymuno ag IS, sefydliad sydd bellach yn enwog am y ffordd barbaraidd mae’n trin gwystlon.

Ond ychwanegodd bod teuluoedd y merched  yn “siomedig” a bod “siawns dda” fod y merched dal yn Nhwrci.