Jimmy Saville
Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn o gyflawni troseddau rhyw. Daw yn rhan o Ymgyrch Yewtree sy’n ymchwilio i mewn i honiadau o gam-drin hanesyddol yn y gorffennol.
Cafodd Walid Moussa, 74, o West Finchley, gogledd Llundain, ei arestio yn wreiddiol ym mis Ebrill y llynedd ar amheuaeth o droseddau rhyw.
Mae wedi ei gyhuddo heddiw o ymosod yn anweddus ar ddynes dros 16 oed rhwng Gorffennaf 1983 a Gorffennaf 1984.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hendon ar Fawrth 16.
Cafodd Ymgyrch Yewtree ei lansio yn sgîl honiadau a wnaed yn erbyn y DJ Jimmy Savile. Arweiniodd y datgeliadau ac ymchwiliad yr heddlu at nifer o honiadau ar wahân.