Mae AS o Ben-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio bod Llywodraeth Prydain yn dewis anwybyddu’r cynnydd diweddar sydd wedi bod yn nifer yr achosion o hunanladdiad.

Hefyd mae Madeleine Moon yn rhagweld y bydd y sefyllfa yn gwaethygu – mae cynydd o 23% wedi bod yn nifer y dynion yng Nghymru sy’n lladd eu hunain.

Ddiwrnod ar ôl i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gyhoeddi bod achosion o hunanladdiad wedi gwaethygu, yn enwedig yng Nghymru, fe ddywedodd Madeleine Moon sy’n cadeirio pwyllgor seneddol APPG ar atal hunanladdiad a hunan-anafu, bod y sefyllfa yn “fom sy’n barod i ffrwydro”.

Roedd cyfradd llawer uwch o hunanladdiadau yng Nghymru  na phob rhanbarth o Loegr, yn ôl yr ONS, gydag 16 o farwolaethau drwy hunanladdiad am bob 100,000 o’r boblogaeth yn cael eu cofnodi yn 2013.

Ond oherwydd y diffyg cefnogaeth ariannol i’r cynlluniau atal hunanladdiad sydd mewn lle gan Lywodraeth San Steffan, fe fydd mwy o bobol yn dewis rhoi terfyn ar eu bywydau, yn ôl yr AS.

Mwy o gefnogaeth

“Rydym yn gwybod fod y broblem yno. Rydym yn gwybod ei fod yn fom sy’n barod i ffrwydro. Ond mae’r Llywodraeth yn dewis anwybyddu’r peth,” meddai Madeleine Moon wrth The Guardian.

“Am nad yw’r ffigyrau yn enfawr, mae’n hawdd meddwl y gallwn ni anwybyddu’r grŵp – er eu bod nhw yn aml yn ddynion ifanc, iach. Ac mae hynny mor anghywir.”

Mae’r APPG yn galw ar sefydliadau iechyd ym Mhrydain i roi mwy o gefnogaeth i dimau iechyd cyhoeddus ac i sefydlu strategaethau lleol i geisio canfod y bobol sydd mewn peryg o deimlo’n isel.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Prydain.