Bydd Elin Fflur yn canu yn y gwobrau
Bydd noson wobrau y cylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Y Selar yn cael ei gynnal nos fory ac mae’r golygydd yn credu bod y digwyddiad blynyddol yn mynd o nerth i nerth.
Yn ogystal â gig fawreddog yn cynnwys Candelas a Sŵnami, bydd enillwyr y 12 categori’n cael eu datgelu yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos fory.
Mae dau o brif enillwyr y gwobrau llynedd, Candelas a Sŵnami, unwaith eto’n amlwg iawn ar y rhestrau eleni ac wedi cyrraedd tair rhestr fer yr un.
Wedi dweud hynny, mae rhai o’r bandiau mwy newydd yn amlwg wedi creu argraff yn 2014 ac yn barod i gystadlu gyda’r enwau mwy sefydledig – mae Y Ffug ac Yr Eira hefyd wedi eu rhestru ar dair rhestr fer yr un.
Dywedodd golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor, fod y gwobrau yn mynd o nerth i nerth.
“Mae’r tocynnau wedi gwerthu’n arbennig o dda,” meddai. “Mae hi’n argoeli i fod yn noson wych ac roedd 2014 yn flwyddyn ddiddorol gydag amrywiaeth o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau.”
“Mae’r rhestrau byr yn adlewyrchu hynny i raddau gyda rhai o’r bandiau iau yn dechrau cystadlu benben â’r rhai sydd eisoes wedi gwneud eu marc.
“Ond mae pawb sydd ar y rhestrau byr yn haeddu eu lle, a gobeithio bydd y gydnabyddiaeth yn hwb iddynt, hyd yn oed os nad ydynt yn ennill un o’r gwobrau nos Sadwrn.”
Y gig
Y bandiau sy’n perfformio yfory:
Candelas
Sŵnami
Y Ffug
Mr Phormula
Plu
Y Reu
Carcharorion
Ysgol Sul
Y Trŵbz
Mellt
Tymbal
Tom ap Dan
Elin Fflur
Yr enwebiadau yn llawn:
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Cofiwch Dryweryn – Y Ffug; Colli Cwsg – Yr Eira; Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami.
Cân Orau (Noddir gan Ochr 1)
Neb ar Ôl – Yws Gwynedd ; Cariad Dosbarth Canol Cymru – Y Ffug; Trysor – Yr Eira.
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)
Arthur – Plu; Colli Cwsg – Yr Eira; Bodoli’n Ddistaw – Candelas.
Hyrwyddwyr Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
Gŵyl Gwydir; 4 a 6 ; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Heno)
Lisa Gwilym ; Dyl Mei; Griff Lynch.
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo)
Kizzy Crawford; Yws Gwynedd; Casi Wyn.
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn)
Gŵyl Crug Mawr; Maes B ; Gŵyl Gwydir.
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C) Cynt a’n Bellach – Candelas;Gwenwyn – Sŵnami ; Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog.
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)
Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi’n Fore – Bromas.
Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan BBC Radio Cymru)
Fleur de Lys; Tymbal; Ysgol Sul.
Band Gorau (Noddir gan Gorwelion)
Candelas ; Sŵnami; Y Ffug.
Categori newydd: Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion)
Enillydd i’w gyhoeddi ar y noson.