Dizzy Rascal yn Wakestock
Mae trefnwyr Wakestock Gŵyl y Môr ger Abersoch, Pen Llŷn wedi cyhoeddi na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni.
Ar ôl 14 mlynedd o redeg gŵyl tonfyrddio fwyaf Ewrop, cyhoeddwyd ar eu cyfrif trydar bod y trefnwyr yn teimlo bod rŵan yn amser da i “gymryd hoe”.
Ond mae trefniadau wedi cychwyn ar gyfer rhaglen 2016, medden nhw.
Mae’r cyhoeddiad wedi ennyn llawer o ymateb negyddol gan bobol sy’n siomedig bod yr ŵyl wedi ei chanslo eleni.