Jocelyn Davies AC yw llefarydd y Blaid ar dai
Mae Plaid Cymru wedi galw am edrych eto ar amodau’r cynllun Cymorth i Brynu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y rhai sydd wedi prynu cartrefi o dan y drefn yn cael eu gwahardd rhag gwneud gwelliannau i’w heiddo.
Mae Jocelyn Davies AC, llefarydd Plaid Cymru ar dai, wedi disgrifio’r gwaharddiad fel un “anymarferol” ac “annheg”.
Mae Cymorth i Brynu yn gynllun rhannu ecwiti sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru. Mae’n galluogi rhai sydd eisiau prynu tŷ i brynu cartref newydd gyda chymorth ar ffurf benthyciad ecwiti o hyd at 20% o bris yr eiddo.
Cafodd y gwaharddiad ar welliannau i dai ei ddatgelu yn dilyn ymholiad dros etholwr oedd wedi prynu cartref fel rhan o’r cynllun Cymorth i Brynu.
Roedd yr etholwr eisiau gwybod sut y byddai’r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn effeithio ar faint oedd yn rhaid iddyn nhw ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.
Ymatebodd Leslie Griffiths AC, y Gweinidog dros Gymunedau a Mynd i’r Afael â Thlodi, i’r ymholiad gan ddweud “nad yw gwelliannau i’r cartref yn cael ei ganiatáu” ac i gynghori bod perchennog y tŷ “yn peidio gwneud unrhyw waith pellach ar eu heiddo hyd nes eu bod wedi ad-dalu eu benthyciad ecwiti”.
Meddai Jocelyn Davies AC: “Er nad yw’n anarferol i amodau gael eu rhoi ar wneud newidiadau i dŷ a brynwyd o dan gynllun rhannu ecwiti fel Cymorth i Brynu, mae gwaharddiad llwyr yn anymarferol ac yn annheg.
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i feddwl eto am y gwaharddiad hwn ac i sicrhau bod pawb sydd wedi prynu cartrefi’n defnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu yn deall y rheolau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid oes unrhyw beth i atal perchnogion Cymorth i Brynu rhag ymgymryd â swyddi bach DIY i wneud eu cartrefi’n fwy cyfforddus.
“Nid yw gwelliannau sylweddol i’r cartref sylweddol yn cael ei caniatáu er mwyn diogelu cwsmeriaid rhag gwneud buddsoddiadau a fyddai’n cynyddu gwerth eu heiddo ac, o ganlyniad, hefyd yn cynyddu eu dyled i Lywodraeth Cymru.
“Mae’r dull hwn yn gyson â mentrau Help i Brynu ar draws y DU.”